
Delwedd trwy garedigrwydd Crippen Cartoons dan drwydded Creative Commons.
Beth yw stigma?
Mae stigma yn adwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntia ar rai priodoleddau, eu gwerthuso’n annymunol, ac yn dibrisio'r personau sy'n eu meddu. Agnes Miles 1981
Mae diffiniadau geiriadur yn cynnwys stigma fel arwydd o warth neu gywilydd; staen neu waradwydd, fel ar enw da rhywun.
Mae Goffmen yn diffinio stigma fel "nodwedd sy'n dwyn anfri dwfn".
Mynd i'r afael â stigma - ymgyrchoedd a dulliau
Mae tri phrif ddull sy'n rhoi sail i weithgareddau sy'n ceisio mynd i'r afael â stigma:
- "Salwch fel unrhyw un arall." Gweithgareddau sy'n cymryd yn ganiataol bod stigma yn cael ei achosi gan bobl nad ydynt yn cydnabod bod problemau iechyd meddwl yn salwch fel unrhyw un arall a chred oni welir trallod fel rhan o salwch, bydd pobl yn rhoi'r bai ar ddioddefwyr am eu problemau eu hunain.
- "Model Cymdeithasol o Anabledd". Gweithgareddau sy'n tynnu ar syniadau o'r mudiad anabledd ehangach, sef y 'model cymdeithasol' o anabledd. Mae hyn yn cynnig yn hytrach na bod y nam ei hun yn achosi’r broblem i bobl ag anableddau, bod y rhan fwyaf o anawsterau o ganlyniad i drefniant cymdeithas ei hun.
- "Ymateb naturiol a normal i brofiadau bywyd". Gweithgareddau sy'n seiliedig ar y syniad bod problemau iechyd meddwl yn ymatebion naturiol a normal i'r pethau ofnadwy a all ddigwydd i ni. Mae'r dull hwn yn ymwneud â sicrhau bod profiadau pobl yn ymddangos yn fwy dealladwy a fydd yn help i fynd i'r afael â stigma drwy alluogi pobl i gydymdeimlo mwy. Mae tystiolaeth gynyddol nad yw hyd yn oed y problemau iechyd meddwl mwyaf difrifol yn ganlyniad syml genynnau diffygiol neu gemegolion ymennydd (h.y. "salwch meddwl").
Cyfle i ddweud eich dweud
Beth ydych chi'n meddwl sy'n achosi stigma? Pa ddull(iau) yn eich barn chi fydd yn fwyaf effeithiol? Pa weithgareddau ydych chi'n meddwl allai weithio orau? Rhannwch eich syniadau, profiadau a dywedwch wrthym os hoffech gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau sy'n ceisio "mynd i'r afael â stigma"?
Mae cyfle i chi ddweud eich dweud drwy gysylltu â ni ar 01686 628300 neu 01597 822191, neu e-bostiwch ni ar mentalhealth(at)pavo.org.uk. Neu gallwch ddweud wrthym drwy lenwi ein ffurflen adborth gyfrinachol (does dim ond angen i chi gwblhau cwestiwn 4) yma.
Gweithgareddau - Ymateb naturiol a normal i brofiadau bywyd
- Powys - Blog Iechyd Meddwl Powys. Mwy yma.
- Cymru - 'A Little Insight' - Daeth pobl ifanc o Collective Voice at ei gilydd i greu animeiddiad sy’n chwalu stigma. fideo 2 funud.
- Powys - Llyfr 'DIY Futures' - straeon 12 o bobl o Bowys. Mwy yma.
Gweithgareddau - "dull salwch fel unrhyw un arall"
Stigma a strategaeth iechyd meddwl yng Nghymru
Mae mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl yn cael ei nodi mewn nifer o strategaethau sy'n berthnasol i Gymru.
Erthyglau ar stigma a all fod o ddiddordeb ...
'Unconventional Wisdom? Time To Challenge – Tackling Stigma'. Laura Gallagher. Mwy yma.
'When The Ads Don't Work'. Anne Cooke a Dave Harper. Mwy yma.
'Stigma-Free Support Needed for Positive Recovery Parenting'. Heidi Tweedie, yn archwilio rhai o'r problemau sy'n wynebu rhieni sy'n profi salwch meddwl. Darllenwch ei herthygl yma.
Chief Inspector Rhiannon Ivens of @DyfedPowys updates us about #Powys Partnerships and the force #mentalhealth conf… twitter.com/i/web/status/9…
Thank you to Huw Irranca-Davies @wgmin_csc for visiting Powys Regional Partnership Board today, helping to shape th… twitter.com/i/web/status/9…
...And for those that either enjoyed my talk at #adisorder4everyone - here it is for your reading pleasure! If you… twitter.com/i/web/status/9…
latest news
Elan Links - FREE Five-Day Ecology Course in the Elan Valley, near Rhayader, Powys
23 Ebrill 2018The Elan Links project is currently running in the Elan Valley, near Rhayader, Powys and creates opportunities for people to access bespoke well-being woodland activities, woodland skills training courses, week-long intensive training in sector specific activities, mentoring, work placemen