Sep 27, 2018

Mae’r ffordd yr ydym yn cael defnyddio gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau a Galw Iechyd Cymru ym Mhowys yn newid ar 3 Hydref.

Yn hytrach na chael dau rif ffôn gwahanol i’w cofio, byddwch yn fuan yn gallu cysylltu â’r ddau wasanaeth hyn drwy un rhif y gellir ei alw am ddim – 111.

Nid yw hyn yn golygu bod Shropdoc yn cau – bydd Shropdoc yn dal i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yn y rhan fwyaf o Bowys fel y mae yn awr (mae’r rhai sy’n byw yn Ystradgynlais yn cael eu cefnogi gan BIP Abertawe Bro Morgannwg ar hyn o bryd a byddant yn parhau i fod yn y dyfodol).

Mae’r newid yn cael ei wneud i wneud bywyd yn symlach i bobl trwy gael un rhif, am ddim i’w alw lle bydd modd i chi gael y cyngor, y cymorth a’r driniaeth gywir 24 awr y dydd.

Mae 111 yn cael ei gyflwyno ledled Cymru a defnyddir y rhif yn Lloegr hefyd a fydd unwaith eto yn ei gwneud hi’n haws i’w gofio a’i ddefnyddio lle bynnag yr ydych chi a phryd bynnag y bydd arnoch ei angen.

Yn dibynnu ar frys a difrifoldeb eich galwad, cewch siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a allai fod yn nyrs, fferyllydd neu feddyg. Weithiau mae’n bosib y bydd angen i chi siarad â mwy nag un person i gael y driniaeth gywir ond byddwn yn cadw hyn i isafswm er mwyn i chi allu cael siarad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir y tro cyntaf. Os bydd arnoch angen sylw ar frys a bod angen i chi weld meddyg teulu allan o oriau, gofynnir i chi fynychu canolfan gofal sylfaenol yn un o safleoedd ein hysbytai, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Ond ar gyfer mwyafrif y cyflyrau, bydd ein nyrsys neu fferyllwyr medrus yn gallu delio â nifer o achosion dros y ffôn. Mae’r bobl fydd yn ateb y galwadau wedi’u hyfforddi i sylweddoli pryd mae bygythiad i fywyd. Os ydych chi’n ffonio 111 ond mae angen ambiwlans arnoch, cewch eich trosglwyddo i’r gwasanaeth ambiwlans brys.

Cofiwch – ffoniwch 111 pan fydd yn fater brys ond nid yn fygythiad i fywyd.

How we access GP out of hours services and NHS Direct in Powys is changing on 3 October.

Instead of having two different telephone numbers to remember, you will soon be able to access both of these services through a single, free to call, number – 111.

This does not mean that Shropdoc is closing – GP out of hours services will still be provided by Shropdoc for most of Powys as they are now (those living in Ystradgynlais are currently supported by Abertawe Bro Morgannwg UHB and will continue to be in the future).

The change is being made to make life simpler for people by having one, free, number to call where you will have access to the right advice, support and treatment 24 hours a day.

111 is being rolled out across Wales and the number is also used in England which again will make it easier to remember and access wherever you are and whenever you need it.

Depending on the urgency and severity of your call, you may speak to a health care professional, who could be a nurse, pharmacist or a doctor. Sometimes it may be necessary for you to speak to more than one person to get the right treatment but we will keep this to an absolute minimum so you get to speak with the right health care professional first time. If your need is urgent and requires you to see a GP out-of-hours, you will be asked to attend a primary care centre based at one of our hospital sites, as is the case currently. However, for the majority of conditions, our highly skilled nurses or pharmacists will be able to deal with many cases over the phone. NHS 111 call takers are trained to recognise when there is a threat to life; if you dial 111 but do need an ambulance, you will be put through to the emergency ambulance service.

Remember – phone 111 when it’s urgent but not life threatening.