Gwasanaethau Cyfagos i Chi
Mae infoengine.cymru yn gyfeiriadur gwasanaethau trydydd sector arlein. Gallwch ddefnyddio'r system arlein hon i gael gwybod am y gwasanaethau trydydd sector yn eich ardal chi. Gallwch chwilio'r safle yma: https://infoengine.cymru
Neu, gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano? Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys ar 01686 628300 neu 01597 822191 neu e-bostiwch ni mentalhealth@pavo.org.uk. Dyma restr o'r math o wybodaeth y gallwn ddarparu a'ch helpu i ddod o hyd iddo:
- gwasanaethau iechyd meddwl yn eich ardal chi
- digwyddiadau, hyfforddiant a chyrsiau
- cyfleoedd a chefnogaeth yn y sector gwirfoddol
- newyddion iechyd meddwl lleol a chenedlaethol
- ... enghreifftiau yn unig yw'r rhain, byddwn yn ceisio cael yr wybodaeth sydd ei angen arnoch, ac os nad ydym yn gwybod, yna byddwn yn gwneud ein gorau i gael gwybod.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am iechyd meddwl a Phowys yma. Mae'r dyddiadur digwyddiadau diweddaraf yma neu newyddion yma.
Gallwch ddarparu adborth am y dudalen hon neu ar unrhyw agwedd ar ein gwefan yn ein harolwg cyfrinachol yma neu gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol gyda'ch adborth ar 01686 628300 neu 01597 822191. Neu e-bostiwch jackie.newey(at)pavo.org.uk.