Cyflogwr Ystyriol
Gall dod o hyd i'r wybodaeth gywir ar yr amser cywir fod yn anodd iawn a chymryd llawer o amser. Mae Cyflogwr Ystyriol yn anelu at wneud y dasg yn llawer haws drwy gael popeth sydd angen i chi ei wybod mewn un lle. P'un a'i ydych yn gyflogai neu reolwr llinell, byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i'ch cefnogi ar eu tudalennau yma.
Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Gyflogwr Ystyriol yma.
Cymru Iach ar Waith
Darperir Cymru Iach ar Waith mewn partneriaeth gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phrifysgol Caerdydd, i gefnogi pobl yng Nghymru i ddychwelyd i'r gwaith, ac aros mewn gwaith am fwy o amser drwy hyrwyddo iechyd a lles, cydbwysedd gwaith-bywyd da a ffyrdd iach o fyw i helpu i leihau salwch ac absenoldeb. Gallwch gael mwy o wybodaeth yma.
Gallwch ffonio Hybu Gwaith Cymru i gael gwybodaeth a chymorth, am ddim a chwbl ddiduedd ynglŷn â threfniadau iechyd a diogelwch, ac absenoldeb oherwydd salwch. Ffoniwch 0845 609 6006.
Gall gweithwyr ffonio'r Ffit i Weithio gyngor am ddim i siarad ag ymgynghorydd arbenigol ynglŷn â materion yn ymwneud ag iechyd a'r gwaith ar 0800 032 6233.