Barn Lerpwl: myfyrdod, atebion a meddyginiaethau

"Mae pobl yn aml yn cael eu beio am sut y maent yn meddwl. Mae'r label sarhaus o 'anhwylder personoliaeth', er enghraifft, yn llwyddo i labeli pobl yn 'sâl' ac ar yr un pryd yn eu beio am eu ffyrdd o feddwl."
Mae'r Athro Peter Kinderman, Cyfarwyddwr Athrofa Seicoleg Prifysgol Lerpwl, Iechyd a Chymdeithas, yn ysgrifennu am yr hyn y gallwn ei wneud i helpu ein hunain i fyw bywydau hapusach, iachach. Mwy yma.
Cyfweliad gyda’r Seicolegydd Lucy Johnstone
Rhan o Gyfres o Gyfweliadau - Dyfodol Iechyd Meddwl ar wefan Psychology Today. Mae Lucy yn sôn am y posibilrwydd o fod "heb-ddiagnosis" a'r fformiwleiddiad seicolegol. Mwy yma.
Mae cyfweliadau eraill yng Nghyfres Cyfweliadau - Dyfodol Iechyd Meddwl ar gael yma.
O salwch meddwl i fodel cymdeithasol o wallgofrwydd a gofid

Adroddiad sy'n ystyried stigmateiddio ac agwedd annefnyddiol y model meddygol sy'n dominyddu meddwl proffesiynol a chyhoeddus. Gyda chyfraniadau gan ddefnyddwyr a goroeswyr gwasanaethau iechyd meddwl. Cefnogir gan Sefydliad Joseph Rowntree, rhwydwaith NSUN ar gyfer iechyd meddwl a 'Shaping our Lives' - sefydliad, tanc meddwl a rhwydwaith genedlaethol annibynnol a reolir gan ddefnyddwyr. Mwy yma.
'storm risin' gan Sean Burn

Mae'r artist Sean Burn wedi cynhyrchu darn o "gelf sŵn" sydd yn symiant o'i brofiadau tymor hir o glywed lleisiau a gweledigaethau. Gallwch wrando ar y darn yma.
Deinameg Grym: Lleisiau ymylol, Lleisiau cryfach
Ym mis Medi 2013, yng nghynhadledd Nottingham: Seiciatreg y tu hwnt i'r patrwm presennol, cynhaliodd y Seicolegydd Clinigol Steven Coles weithdy ar y pwnc Deinameg Grym yn ymwneud â gofid meddwl.
Mae wedi darparu'r adnoddau canlynol o'i weithdy am ragor o wybodaeth:
- Cyd-destun gofid 1 (Contextualising Distress I)
- Diagram mapio grym
- Darllen a rhestr adnoddau
- Cyflwyniad y Gweithdy
Gallwch ddarllen mwy am y gweithdy yma.