Y dull Deialog Agored
"Mae'r dull Deialog Agored yn ddull athronyddol / damcaniaethol i bobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl a'u teuluoedd / rhwydweithiau, yn ogystal â system o ofal, a ddatblygwyd yng Ngorllewin Lapdir yn y Ffindir dros y 25-30 mlynedd diwethaf".
Mae'r pwyslais ar sefydlu deialog gyda nid dim ond y person mewn argyfwng, ond hefyd rwydwaith gymdeithasol y person hwnnw, ac i gyd o fewn 24 awr. O ganlyniad i'r dull hwn, dengys bod yn aml lai o angen am feddyginiaeth a chyfnod mewn ysbyty.
Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy glicio ar y cysylltiadau canlynol i wefannau a dogfennau:
Deialog Agored DU (Open Dialogue UK)
Deialog Agored - cymuned ryngwladol
'Institute for Dialogic Practice' - Sefydliad a'i leoliad yn yr Unol Daleithiau ac yn gyfleuster hyfforddi ym maes Deialog Agored gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar y wefan.
Erthyglau a fideos ar Ddeialog Agored
Mae Dr Jaakko Seikkula yn Athro Seicotherapi ym Mhrifysgol Jyväskylä yn y Ffindir.
Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar y dull Deialog Agored, ar ôl bod yn ymwneud yn agos â'i arfer yng Ngorllewin y Ffindir ers dros ugain mlynedd. Gallwch weld rhai o'i erthyglau yma - mae rhai wedi cael eu hysgrifennu ar y cyd.
'Becoming Dialogical: Psychotherapy or a Way of Life?' gan Jaakko Seikkula
'Healing Elements of Therapeutic Conversation: Dialogue as an Embodiment of Love' gan Jaakko Seikkula a David Trimble
'Making sense of multi-actor dialogues in family therapy and network meetings' gan Jaakko Seikkula, Aarno Laitila a Peter Rober
'The Open Dialogue approach to Acute Psychosis: it's Poetics & Micropolitics' gan Jaakko Seikkula a Mary E Olson
Gallwch wylio fideo o Jaakko Seikkula yn siarad am y dull Deialog Agored yma.
Mae Daniel Mackler yn wneuthurwr ffilmiau a chyn seicotherapydd o Efrog Newydd sydd wedi gwneud nifer o fideos ar y dull Deialog Agored.
Gallwch wylio rhai o'i gyfweliadau, a rhagluniau ar gyfer ffilmiau hir, ar ei sianel YouTube yma. Mae'r ffilm Deialog Agored llawn bellach ar gael yma. Mae Daniel hefyd wedi ysgrifennu traethawd dilynol 5 mlynedd ar Ddeialog Agored Y Ffindir y gallwch ei ddarllen yma.
Datblygu Deialog Agored (Developing Open Dialogue - DOD)
Mae DOD yn sefydliad nid-er-elw a leolir yn Swydd Efrog, Lloegr, sy'n anelu at ddarparu gwybodaeth gyfoes i bobl sydd â diddordeb mewn datblygiadau ym maes Deialog Agored ar draws y DU ac mewn mannau eraill, o weithrediadau gwasanaeth, i brosiectau ymchwil a chyfleoedd hyfforddi. Darllenwch am adnoddau Deialog Agored eraill ar wefan y sefydliad.
Ysgol Feddygol Prifysgol Massachusetts
Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Massachusetts yn gweithio gyda Jaakko Seikkula i weithredu'r dull Deialog Agored yn yr Unol Daleithiau. Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn yma.
Deialog Agored - bellach yn cael ei gyflwyno i'r DU
Mae grŵp o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol ymroddedig yn awr yn cyflwyno Deialog Agored i'r DU. Mae clinigwyr a chyfoedion gwirfoddol lleol o bedair ymddiriedolaeth iechyd meddwl y GIG wedi dechrau hyfforddiant, a dechreuodd treial i'w gymharu gydag ymarfer presennol yn 2016.
Dechreuodd yr Hyfforddiant Sylfaenol cyntaf yn y dull Deialog Agored yn y DU yn 2016. Mae ar gyfer timau GIG, cyfoedion ac ymarferwyr annibynnol, ac fe'i cynhaliwyd yn Llundain dros gyfnod o 20 diwrnod, wedi'u gwasgaru mewn blociau trwy gydol y flwyddyn. Un o'r hyfforddwyr yw Mia Kurtti, sydd hefyd yn hyfforddi ar y Rhaglen Sylfaen yng Ngorllewin Lapdir.
Cewch wybod mwy am hyfforddiant ar wefan Deialog Agored y DU.
Mae fideos o Gynhadledd Deialog Agored y DU Mawrth 2016 ar flog Mad in America.
Gallwch gael gwybod mwy ar dudalen we y Guardian sy'n sôn am y gynhadledd genedlaethol gyntaf Deialog Agored â Chymorth-Cyfoedion a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Mawrth 2015.
Mynychodd Tom Stockmann, seiciatrydd sy'n gweithio yn Llundain, hyfforddiant mewn Deialog Agored â Chymorth-Cyfoedion yn 2015. Gallwch ddarllen ei flog am ei brofiadau yma a phost arwahân a ysgrifennodd ar gyfer gwefan Mad in America yma.
Gallwch ddarllen rhifynnau o fwletin Deialog Agored â Chymorth Cyfoedion y DU yma.
Grŵp Deialog Agored Nottingham
Cynhyrchwyd nifer o gyflwyniadau a dogfennau gan y grŵp yn Awst / Medi 2013 ar gyfer gweithdy ar Ddeialog Agored mewn cynhadledd o'r enw Seiciatreg y tu hwnt i'r Paradigm Presennol (Psychiatry Beyond the Current Paradigm) a drefnwyd gan y 'Critical Psychiatry Network' ac 'Asylum Associates'.
Cyflwyniad Deialog Agored Nottingham
Egwyddorion Deialog Agored Nottingham
Tudalen Facebook Deialog Agored Nottingham
Gallwch ddarllen mwy am weithdy Deialog Agored Nottingham yma.