Gwellhad – beth mae’n ei olygu?
Mae gwellhad yn ymwneud â byw yn dda."
"Taith o dwf personol a thrawsnewid."
"Mae pobl sydd â diagnosis seiciatrig yn gwella ac yn aros yn iach."
"gobaith, rheolaeth, cyfleoedd."
Mae gwellhad yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mae gan lawer ohonom ein diffiniad eu hunain o wellhad. Dywedwch wrthym am eich un chi fel y gallwn eu rhannu ar y dudalen hon. Cliciwch yma i ddweud wrthym - beth mae gwellhad yn ei olygu i chi?
Adborth
Mai 18, 2012 - "Dod o hyd i foddhad tra'n aros yn iach".
Ionawr 25, 2014 - "I mi, mae gwellhad yn golygu meistroli eich meddwl eich hun a hunan reolaeth. I drin ei hun ac eraill â pharch ac i fod yn rhydd o hunan-amheuaeth a hunan-feirniadaeth fychanol"
Ble alla i gael mwy o wybodaeth am adferiad?
Siaradwch ag eraill, yn enwedig cyfoedion sydd ar lwybrau tebyg. Gallwn i gyd rannu ein profiadau a bod yn greadigol gyda'i gilydd wrth ddod o hyd i les personol.
Ar y we ...
Mae DIY Futures Powys yn brosiect sy'n cael ei seilio ar egwyddorion adfer ac ymagwedd sy'n canolbwyntio ar unigolion. Cewch wybod mwy yma.
Gallwch lawrlwytho cyflwyniad am wellhad a baratowyd gan dîm DIY Futures yma.
Darllenwch am Agoriad Swyddogol Canolfan Addysgu Llesiant a Gwellhad yn Ysbyty Bronllys ym Mhowys yma.
Mae gwybodaeth am wellhad ar wefan Cyngor Sir Powys yma.
Dyma rai enghreifftiau o wefannau eraill lle gallwch archwilio a dysgu mwy am wellhad, fodd bynnag, os hoffech chi gael help i gael gwybod mwy, cysylltwch â'n gwasanaeth gwybodaeth:
- Rhwydwaith Wellhad yr Alban gyda Straeon ar Wellhad
- Ymchwil ar Wellhad
- Rhwydwaith Hearing Voices - Am Wellhad a Chlywed Lleisiau
- Llyfryn Mind Freedom ar Wellhad
- Canllaw i fyfyrwyr Hafal - Dull o wella o salwch meddwl
Mae Inter Voice yn gweithio ar draws y byd i ledaenu negeseuon cadarnhaol a gobeithiol am y profiad o glywed lleisiau. Os ydych yn clywed lleisiau, yn adnabod rhywun sydd neu os hoffech gael gwybod mwy am y profiad hwn, dyma'r safle i chi.
Adroddiadau ac Erthyglau
All y gwasanaethau iechyd meddwl fel yr ydym yn eu hadnabod mewn gwirionedd gefnogi Gwellhad?
Yn y darn hwn, mae Dr Rachel Perkins OBE yn gofyn cwestiynau heriol am y graddau y mae ein system wasanaeth bresennol yn wirioneddol addas i'r pwrpas wrth ymdrin â gwellhad. Mae'n mynd ymlaen i awgrymu bod buddiannau breintiedig cryf mewn cynnal y 'status quo' ond yn dadlau bod newid yn angenrheidiol er mwyn cyflawni gweledigaeth wellhad. Mae Rachel yn ysgrifennu o safbwynt rhywun sydd â phrofiad helaeth wrth gynllunio, cyflwyno ac hefyd mewn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl.
Darllenwch yr erthygl yma.
Gwellhad: persbectif gofalwr
Mae papur briffio'r Galnolfan Iechyd Meddwl yn archwilio beth mae gwellhad yn ei olygu i deuluoedd a ffrindiau pobl â chyflyrau iechyd meddwl. Mwy yma.
Llyfrau...
Os ydych chi'n ddarllenwr mae hefyd lawer o lyfrau ac erthyglau am wellhad. Dyma rai enghreifftiau ond eto os hoffech help i gael gwybod mwy cysylltwch â'n gwasanaeth gwybodaeth.
Recovery in Mental Health: Reshaping Scientific and Clinical Responsibilities by Michaela Amering, Margit Schmolke. Am ddim ar-lein.
Mae PCCS Books yn cyhoeddi llyfrau a chylchgronau cwnsela a seicotherapi.
Os oes gennych awgrymiadau ynghylch ffynonellau eraill o wybodaeth am adferiad yr ydych yn meddwl y dylem rannu, cysylltwch â jackie.newey(at)pavo.org.uk neu ffoniwch 01686 628 300.