Apr 19, 2021

You may be aware that there is an amendment to the Mental Capacity Act which introduces Liberty Protection Safeguards (for those age 16 and over) which will replace DoLS (Deprivation of Liberty Safeguards) in England and Wales. DoLS was seen to be complex, overly administrative and lacked a person-centred approach which needed addressing.  LPS, due to be implemented from 1 April 2022, will enable three assessments to take place with regard to the care and treatment for an individual who lacks the capacity to consent.

The key changes relate directly to three assessments, and a targeted approach outlined in the attached Department of Health and Social Care LPS Factsheet which also highlights other important changes:

  • Where it is reasonable to believe that a person would not wish to reside or receive care or treatment at the specified place, or the arrangements provide for the person to receive care or treatment apply mainly in an independent hospital, the case must be considered by an Approved Mental Capacity Professional (AMCP). This provides an additional protection.
  • An Approved Mental Capacity Professional will consult with a range of people such as a person who is the individual’s unpaid carer, an attorney of a Lasting Power or Enduring Power of Attorney, a Court of Protection Deputy and importantly an Independent Mental Capacity Advocate.
  • For 16-17 year olds who need to be deprived of their liberty, the current process is to apply to the Court of Protection. Under the Amendment, Responsible Bodies (Health Boards and Local Authorities in Wales) will be able to authorise a LPS without going to Court.
  • Importantly and for the first time, the LPS now extends to domestic settings. This means a family home, supported living and shared lives provision.

The Welsh Government will be holding engagement events into the Spring and consulting on the 4 sets of draft LPS regulations for Wales. Wales Council for Voluntary Action (WCVA) will be hosting an event for the voluntary sector to consider the regulations in the Welsh context.

********************************************************************

Efallai eich bod yn ymwybodol o’r ffaith bod diwygiad i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol sy’n cyflwyno Trefniadau Amddiffyn Rhyddid (i’r rheini sy’n 16 oed a hŷn) a fydd yn disodli’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (DoLS) yng Nghymru a Lloegr. Credwyd fod y DoLS yn gymhleth, yn rhy weinyddol ac nad oedd yn mynd ati mewn modd a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac roedd angen mynd i’r afael â hyn. Bydd yr LPS, sy’n bwriadu cael eu rhoi ar waith o 1 Ebrill 2022, yn galluogi tri asesiad i gael eu cynnal o ran gofal a thriniaeth unigolyn nad yw â’r gallu i gydsynio.

Mae’r prif newidiadau yn ymwneud yn uniongyrchol â thri asesiad, a dull gweithredu wedi’i dargedu a amlinellir yn Nhaflen Ffeithiau LPS yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (wedi’i hatodi) sydd hefyd yn amlygu newidiadau pwysig eraill:

  • Pan fydd hi’n rhesymol i gredu na fyddai unigolyn yn dymuno preswylio neu dderbyn gofal neu driniaeth yn y lle a nodwyd, neu pan fydd y trefniadau’n ymwneud yn bennaf â phan fydd yr unigolyn yn derbyn gofal neu driniaeth mewn ysbyty annibynnol, rhaid i’r achos gael ei ystyried gan Weithiwr Galluedd Meddyliol Proffesiynol Cymeradwy (AMCP). Mae hyn yn darparu mesur diogelu ychwanegol.
  • Bydd Gweithiwr Galluedd Meddyliol Proffesiynol Cymeradwy yn ymgynghori ag amrywiaeth o bobl fel rhywun sy’n ofalwr di-dâl i’r unigolyn, twrnai ag atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, Dirprwy o’r Llys Gwarchod ac, yn bwysig iawn, Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol.
  • O ran pobl ifanc 16-17 oed sydd angen eu hamddifadu o’u rhyddid, y broses gyfredol yw gwneud cais i’r Llys Gwarchod. O dan y Diwygiad, bydd Cyrff Cyfrifol (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru) yn gallu awdurdodi LPS heb orfod mynd i’r Llys.
  • Yn bwysig, ac am y tro cyntaf, mae’r LPS wedi’u hehangu i gynnwys lleoliadau domestig. Mae hyn yn golygu cartrefi teuluol, tai â chymorth a darpariaeth cysylltu bywydau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu i mewn i’r Gwanwyn ac yn ymgynghori ar y 4 set o reoliadau LPS drafft ar gyfer Cymru. Bydd CGGC yn cynnal digwyddiad ar gyfer y sector gwirfoddol i ystyried y rheoliadau o fewn cyd-destun Cymru.