Gwaith ieuenctid yng Nghymru/Youth work in Wales

Gwaith ieuenctid yng Nghymru: cyflawni dros bobl ifanc

 Heddiw mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid.

Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim, yn enwedig galwad y Bwrdd i gryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Bydd y fframwaith statudol newydd yn gofyn i bob awdurdod lleol gydweithio â’i bartneriaid, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol, i ystyried tystiolaeth o’r hyn y mae pobl ifanc ei angen a’i eisiau, a nodi mewn cynllun strategol sut orau i fynd i’r afael â’r anghenion hynny i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog a pherthnasol i’n pobl ifanc.

Bydd strwythurau cyfranogi cadarnhaol ac ystyrlon a dull ‘un sector’ o gyflawni yn ganolog i lwyddiant y fframwaith newydd. Rydym bellach yn gwahodd ymarferwyr, arweinwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ifanc yng Nghymru i ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol fel y gallwn gasglu ystod amrywiol o safbwyntiau i gefnogi’r camau nesaf.

Diolch yn fawr i’r rhai sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cynigion hyn hyd yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 10 Ionawr 2025.

Youth work in Wales: delivering for young people

 Today the Cabinet Secretary for Education has launched a consultation on a proposed new statutory framework for youth work.

This represents a significant milestone in the Welsh Government’s response to the recommendations of the Interim Youth Work Board, particularly the Board’s call for a strengthened legislative basis for youth work.

The new statutory framework will require each local authority to work collaboratively with their partners, including voluntary organisations, to consider evidence of what young people need and want and set out in a strategic plan how best to address those needs to deliver a rich and relevant youth work offer for our young people.

Positive and meaningful participation structures and a ‘one sector’ approach to delivery will be central to the success of the new framework. We are now inviting practitioners, leaders and anyone interested in securing the best outcomes for young people in Wales to respond to the formal consultation so that we can capture a diverse range of opinions to support the next steps.

A big thank you to everyone who has fed into the development of these proposals to date.

The closing date for responses is 10 January 2025.