May 13, 2019

A major programme in North Powys is the latest to receive £2.554m funding from the Welsh Government’s £100m Transformation Fund to back new ways of delivering health and social care services.

Health Secretary, Vaughan Gething said the money will be used to help health and social services work more closely and deliver care closer to people’s homes. If successful it could then be rolled-out across the whole of Wales.

The Fund has been created to support the scale up of new models of seamless health and social care as part of the Welsh Government’s long term plan for health and social care, A Healthier Wales.

The funding is for the North Powys Wellbeing programme, which will help Powys Regional Partnership Board to work with local communities and partner organisations to develop a new way of providing services closer to home.

The programme will be the largest ever intergenerational health and wellbeing programme in Powys, providing an opportunity for local communities to work together with health, social care, education, housing, leisure, the third sector and wider partners.

Mr Gething said: “I am pleased to announce the North Powys project will be the latest to be backed by the Welsh Governments’ Transformation Fund. Our health and social care services are set to face greater and more complex demand in the future as our population ages. We need to develop radical new ways to deliver our health and social services if we are to meet the demand in the future. 

This will require new ways of working and bringing different services together to deliver services closer to home and reduce pressure on hospitals. Our long-term plan for health and social services, A Healthier Wales details how we can achieve this. Our £100m Transformation Fund will help us realise that vision by funding innovative projects that have potential to scale up and be used across Wales.”

Cllr Rosemarie Harris, Leader of Powys County Council, said “This truly is a once in a generation opportunity to improve health and wellbeing across north Powys. Together our council and health board are already leading the way in Wales as the first region with a joint health and care strategy agreed in 2018, built on the issues that the people of Powys said were important to them. This funding from Welsh Government will help us to ensure that we are taking practical steps to turn this into reality.”

Carol Shillabeer, Chief Executive of Powys Teaching Health Board and Chair of Powys Regional Partnership Board, said: “This programme is first and foremost about ensuring the best opportunities for health and care across the whole of north Powys. But, central to achieving this is the development of a state of the art new facility in the Newtown area to offer more services locally and bring the latest technology and training to mid Wales. This will be based at the heart of the town, and this funding from Welsh Government means that we can now start a big conversation with residents, staff and partner organisations to agree the services it will offer and how will it will connect with other health and care facilities in North Powys. We are looking forward to working with local communities to develop and implement this new way of working together.”

£2.5m i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys

Rhaglen yng ngogledd Powys yw’r ddiweddaraf i gael £2.554m o gyllid o Gronfa Trawsnewid £100m Llywodraeth Cymru i gefnogi ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i weithio’n agosach gyda’i gilydd a darparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Os yw’n llwyddiannus, gellir ei gyflwyno ledled Cymru.

Crëwyd y Gronfa i gefnogi’r gwaith o helpu i gyflwyno modelau newydd ar raddfa ehangach er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor, a hynny fel rhan o gynllun Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cyllid ar gyfer rhaglen Llesiant Gogledd Powys, a fydd yn helpu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys i weithio gyda chymunedau lleol a sefydliadau partner i ddatblygu ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau yn nes at adref.

Y rhaglen hon fydd y rhaglen iechyd a llesiant fwyaf erioed ym Mhowys sy’n pontio’r cenedlaethau, gan roi cyfle i gymunedau lleol gydweithio gydag iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, tai, hamdden, y trydydd sector a phartneriaid ehangach.

Dywedodd Mr Gething: “Mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai’r prosiect yng ngogledd Powys yw’r diweddaraf i gael cefnogaeth Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau uwch a mwy cymhleth yn y dyfodol wrth i’r boblogaeth heneiddio. Mae angen i ni ddatblygu ffyrdd newydd, radicalaidd o ddarparu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol os ydym am ddiwallu’r galw yn y dyfodol. 

Bydd yn rhaid mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan ddod â gwahanol wasanaethau at ei gilydd, i ddarparu gwasanaethau yn nes at y cartref a lleihau’r pwysau ar ysbytai. Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Cymru Iachach yn nodi sut y gallwn gyflawni hyn. Bydd ein Cronfa Trawsnewid £100m yn ein helpu i wireddu’n gweledigaeth drwy ariannu prosiectau arloesol sydd â’r potensial i gael eu cyflwyno a’u defnyddio ledled Cymru gyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys, “Dyma gyfle a ddaw ond unwaith mewn cenhedlaeth i wella iechyd a llesiant yng ngogledd Powys. Gyda’i gilydd, mae ein cyngor a’n bwrdd iechyd eisoes yn arwain y ffordd yng Nghymru fel y rhanbarth cyntaf gyda strategaeth iechyd a gofal ar y cyd a gytunwyd yn 2018, yn seiliedig ar y pethau y mae pobl Powys wedi dweud sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cymryd camau ymarferol i wireddu hyn.”

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: “Mae’r rhaglen hon yn ymwneud yn bennaf oll â sicrhau’r cyfleoedd gorau ar gyfer iechyd a gofal yng ngogledd Powys. Ond, yn ganolog i gyflawni hyn mae datblygu cyfleuster newydd, modern, yn ardal y Drenewydd i gynnig rhagor o wasanaethau yn lleol, a dod â’r dechnoleg a hyfforddiant diweddaraf i’r canolbarth. Bydd wedi’i leoli yng nghanol y dref, ac mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn yn awr ddechrau sgwrs fawr gyda’r preswylwyr, staff a sefydliadau partner i gytuno ar y gwasanaethau y bydd yn eu cynnig a sut y bydd yn cysylltu â chyfleusterau iechyd a gofal yng Ngogledd Powys. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu a gweithredu’r ffordd newydd hon o gydweithio.”