Feb 3, 2022

Anfonwyd ar ran Addysg a Gwella Iechyd Cymru Gofal Cymdeithasol Cymru/ Sent on behalf of Health Education & Improvement Wales Social Care Wales

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar y camau gweithredu allweddol a fydd yn ffurfio sylfeini’r cynllun gweithlu iechyd meddwl amlbroffesiynol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i’r camau gweithredu a amlinellir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac mae’n cynnwys pob rhan o’r gweithlu sy’n chwarae rhan mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl. Er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu dull cyfannol o gefnogi pobl, mae hyn yn cynnwys y gweithlu ehangach, cyffredinol yn ogystal â’r gweithlu iechyd meddwl arbenigol.

Mae ein gwaith hyd yma wedi cynnwys ymgysylltu, ymchwil a dadansoddi sylweddol, ac mae hyn wedi llywio’r camau a awgrymwyd yn y ddogfen ymgynghori.

Sut i gymryd rhan

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 1 Chwefror 2022 a 28 Mawrth 2022.

Amgaeaf gopi o’r ddogfen ymgynghori sy’n cynnwys y camau gweithredu arfaethedig a chopi o gwestiynau’r ymgynghoriad. Gallwch gyflwyno eich atebion drwy lenwi’r e-ffurflen hon. Nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai’n eich adnabod wrth lenwi’r e-ffurflen.

Fel arall, gallwch e-bostio eich atebion i heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk

Fe welwch hefyd ar ein gwefan yn Ymgynghoriad: cynllun gweithlu iechyd meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol – AaGIC (gig.cymru) fersiwn hawdd ei darllen o’r ddogfen ymgynghori a chwestiynau, ynghyd â dogfennau ategol sy’n ymdrin â’r ymchwil a’r ymgysylltu a wnaed hyd yma.

Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori y gallech fod eisoes wedi cael eich gwahodd iddynt. Os nad ydych wedi mynychu ac yr hoffech ei fynychu, ewch I Gweithdai ymgynghori: cynllun gweithlu iechyd meddwl – AaGIC (gig.cymru)

Yn ogystal, rydym yn trefnu cyfarfodydd gyda chyrff proffesiynol ac yn hapus i ymuno â chyfarfodydd eraill a drefnwyd ymlaen llaw lle bo hynny’n bosibl yn ystod y cyfnod ymgynghori i drafod y camau gweithredu arfaethedig. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, anfonwch e-bost at heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk

We are currently consulting on the key actions which will form the foundations of the multi-professional mental health workforce plan for health and social care in Wales and would value your input.

The plan is being developed in response to the actions outlined in Together for Mental Health and includes all parts of the workforce who play a role in relation to mental health services. To ensure that we build a holistic approach to supporting people this includes the wider, generalist workforce as well as the specialist mental health workforce.

Our work to date has involved significant engagement, research and analysis, and this has informed the suggested actions included in the consultation document.

How to get involved

The consultation is running from 1 February 2022 until 28 March 2022.

Please find attached a copy of the consultation document containing the proposed actions and a copy of the consultation questions. You can submit your answers by completing this e-form You do not have to give your name or any information that would identify you when completing the e-form.

Alternatively, you can email your answers to heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk

You will also find on our website at Consultation on the mental health workforce plan for health and social care – HEIW (nhs.wales) supporting documents covering the research and engagement carried out to date.

We are also holding a number of consultation workshops which you may have already been invited to. If you haven’t and would like to attend, please visit Consultation workshops: mental health workforce plan – HEIW (nhs.wales)

In addition, we are arranging meetings with professional bodies and are happy to join other pre-arranged meetings where possible during the consultation period to discuss the proposed actions. If this is of interest to you, please email heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk