Sesiynau DEEP – Gofal Cymdeithasol Cymru AM DDIM
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) ac yn cynnig ystod o y cyfleoedd dysgu a datblygu ar-lein hyn yn rhad ac am ddim rhwng mis Gorffennaf ac mis Medi. Gellir mynychu’r holl sesiynau fel digwyddiadau unigol.
Beth yw DEEP?
Mae DEEP yn ddull cyd-gynhyrchu o gasglu, archwilio a defnyddio mathau amrywiol o dystiolaeth (tystiolaeth ymchwil, doethineb ymarferwyr a safbwyntiau pobl â phrofiad o fyw) mewn dysgu a datblygu trwy ddefnyddio dulliau stori a deialog.
Mae Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ddangos sut y maent yn defnyddio tystiolaeth wrth ymarfer, cynllunio a llunio polisïau a mynd y tu hwnt i ddangosyddion perfformiad i archwilio profiad a chanlyniadau’r bobl y maent yn eu cefnogi.
Gall defnyddio dulliau DEEP gefnogi pobl sy’n gweithio ar draws gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gyda’r ddealltwriaeth a’r offer i ddarparu gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd.
I archebu’r unrhyw un o’r sesiwn isod, defnyddiwch y ddolen hon: https://www.eventbrite.com/cc/
| Teitl | Am beth mae’n sôn | Dyddiad |
| Gwneud penderfyniadau ar y cyd | Dysgwch am wneud penderfyniadau consensws a sut mae defnyddio’r dull hwn yn helpu dod o hyd i gamau gweithredu a/neu atebion y mae pawb yn eu cefnogi neu’n gallu byw gyda nhw7 | 7fed Gorff |
| Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: egwyddorion DEEP
|
Archwiliwch yr 8 egwyddor sy’n sail i’r dull DEEP sy’n canolbwyntio ar bobl o ddefnyddio tystiolaeth mewn dysgu a datblygu | 9fed Gorff |
| Gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd:
y fframwaith Synhwyrau
|
Dysgwch am ofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd a llesiant rhyngddibynnol drwy archwilio’r chwe ‘Synnwyr’ | 16fed Gorff
|
| Casglu a defnyddio tystiolaeth yn ymarferol: Mapio Effaith Crychdonni | Cyflwyno’r elfennau allweddol o Mapio Effaith Crychdonni | 21ain Gorff |
| Ymarfer a dysgu myfyriol:
Eiliadau hud ac Eiliadau trasig |
Deall sut i gasglu ‘eiliadau hud’ ac ‘eiliadau trasig’ pobl a sut y gellir defnyddio’r straeon hyn fel catalydd ar gyfer dysgu a datblygu’n ymarferol | 10fed Medi |
| Arfer adfyfyriol a gwerthuso:
Newid Mwyaf Arwyddocaol |
Dysgwch egwyddorion a hanfodion casglu ac archwilio straeon gyda’r dull Newid Mwyaf Arwyddocaol | 17fed Medi |
| Arfer adlewyrchol a chydgynhyrchu
Cymuned ymholi |
Dysgwch sut i gefnogi pobl i archwilio pynciau mewn ffordd gwerthfawrogi ac yn cefnogi anghytundeb myfyriol | 24fed Medi |