Mae Baromedr Cymru, yr arolwg chwarterol dwyieithog newydd ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn helpu mudiadau gwirfoddol a gwneuthurwyr penderfyniadau i ddatgloi mewnwelediadau o’r sector gwirfoddol. Mae’r don hon ar agor nawr rhwng 8 Gorffennaf a 5 Awst.
Ochr yn ochr â’r cwestiynau rheolaidd sy’n olrhain tueddiadau ar draws y sector, mae Ton 4 yn archwilio’r rôl y mae mudiadau gwirfoddol yn ei chwarae ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r arolwg yn edrych ar sut mae sefydliadau’n gweithio gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, eu profiadau o gydweithio a darparu gwasanaethau, a sut mae’r sector gwirfoddol yn cyfrannu at gefnogi pobl a chymunedau.
Bydd y canfyddiadau yn helpu i adeiladu darlun cliriach o brofiadau’r sector ac yn darparu tystiolaeth werthfawr i lywio polisi a’r broses o wneud penderfyniadau.
Mae’r arolwg ar agor i bob mudiad gwirfoddol yng Nghymru. P’un a ydych chi’n grŵp cymunedol bach neu’n fudiad mawr — a ph’un a ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ai peidio — mae eich llais yn bwysig.
✅ Pam cymryd rhan?
Byddwch chi’n cael-
- Adroddiad Mewnwelediad wedi’i deilwra sy’n cymharu profiadau eich mudiad chi â’r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru
- Tystiolaeth i gefnogi cynllunio, gwneud penderfyniadau strategol a sgyrsiau ariannu
- Mynediad at ganfyddiadau ar gyfer y sector cyfan a gweminar am ddim sy’n archwilio’r hyn maen nhw’n ei olygu i fudiadau gwirfoddol
Cymerwch ran yma: https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_6YeIYvNfBPDpc1M
Cymerwch ran heddiw! Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau ac mae ar agor tan 5 Awst.