Llinellau Cymorth Cenedlaethol

Yma ceir rhestr o linellau cymorth, er mwyn ichi siarad am iechyd meddwl dros y ffôn.

Arbenigwyr ym maes Cymorth Rhywedd a Hunaniaeth Rywiol – Umbrella Cymru

Mae Umbrella Cymru, sy’n arbenigo mewn Cymorth Rhywedd a Hunaniaeth Rywiol yn cynnig gwasanaethau i helpu gwneud Cymru’n lle mwy cynhwysfawr i fyw a gweithio ar gyfer pobl LGBTQ+. Mae hyn yn cynnwys cymorth uchel ei safon o safbwynt emosiynol ac ymarferol, ynghyd â gwybodaeth, eiriolaeth a llawer mwy.

Ffôn: 0300 302 3670
Ebost: info@umbrellacymru.co.uk

Ymweld â’r Wefan

Beat Eating Disorders

Ffôn: 0808 801 0677 (3.00pm – 10.00pm)

Ymweld â’r Wefan

Campaign Against Living Miserably (CALM)

Sefydlwyd Campaign Against Living Miserably (CALM) i leihau’r nifer uchel o achosion o hunanladdiad ymhlith dynion dan 35 oed, ond mae CALM yn gwrando ar unrhyw un sydd angen cymorth neu gefnogaeth.


Ymweld â’r Wefan

Connecting with People

Mae Connecting with People yn cynnig adnodd ar-lein ‘Staying safe if you’re not sure life’s worth living’ sy’n cynnig gwybodaeth i bobl mewn trallod ac sydd efallai’n ystyried lladd eu hunain.


Ymweld â’r Wefan

Diverse Cymru

Mae Diverse Cymru yn darparu cymorth, gwasanaethau a chyngor i bobl Ddu ac o Leiafrifoedd Ethnig (BME) ar hyd a lled Cymru, sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl. Gallwch lawrlwytho taflen briffio ymarfer dda ar y problemau sy’n poeni cymunedau BME gydag afiechyd meddwl yng Nghymru, gydag argymhellion ar gyfer camau gweithredu, yma.

Ffôn: 029 2036 8888

Ymweld â’r Wefan

Family Lives

Family Lives (Parent Line gynt) – gallwch ffonio unrhyw adeg o’r dydd i drafod problemau teuluol.

Ffôn: 0808 800 2222

Farming Community Network Helpline

Farming Community Network Helpline – croeso ichi ein ffonio i gael sgwrs gyda rhywun sy’n deall ffermio a bywyd yng nghefn gwlad. Bydd rhywun yn ateb galwadau rhwng 7am – 11pm bob diwrnod o’r flwyddyn.

Ffôn: 03000 111 999

Ymweld â’r Wefan

Kooth

Mae Kooth yn cynnig cymorth a chwnsela ar-lein ar gyfer pobl dan 25 oed. Llinell gymorth ddwyieithog am ddim ar gyffuriau sydd yn fan cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth neu gymorth mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.

Ffôn: 0800 633 55 88 tecstiwch: DAN to 81066

Ymweld â’r Wefan

Lein Gymorth Amlieithog Cymru

Ffôn: 0808 801 0720 (Ar agor dydd Llun - Gwener 10am - 6pm)

Ymweld â’r Wefan

LifeSIGNS

Arweiniad ar hunan-niwed a chymorth rhwydwaith, sy’n cynnig tudalen llinell gymorth hefyd.


Ymweld â’r Wefan

Llinell Gymorth Call

Mae Llinell Gymorth Call yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru.

Ffôn: 0800 132 737 neu tecstiwch: 81066

Ymweld â’r Wefan

Llinell gymorth Dementia

Mae llinell gymorth Dementia yn cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un, o unrhyw oed, sy’n gofalu am rywun gyda Dementia ynghyd ag aelodau eraill y teulu neu ffrindiau.

Ffôn: 0808 141 0043, tecstiwch: 81066

Ymweld â’r Wefan

Meddwl

Gall byw gyda salwch meddwl fod yn brofiad unig a heriol. Dyma’r wefan i gael hyd i gymorth, i ddysgu am anhwylderau gwahanol, a chael gwybodaeth ynghylch lle mae cymorth ar gael, trwy gyfrwng y Gymraeg. Y gobaith yw gallu rhannu gwybodaeth ddefnyddiol i bawb sy’n byw gyda salwch meddyliol, eu teuluoedd a ffrindiau.


Ymweld â’r Wefan

Meic

Gwasanaeth llinell gymorth yw Meic ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

Ffôn: 080880 23456, tecstiwch: 84001

Ymweld â’r Wefan

Mind

Mae Mind yn cynnig dau wasanaeth cyfrinachol ym maes iechyd meddwl. Gyda chymorth a dealltwriaeth, rydym yn galluogi pobl i wneud dewisiadau deallus. Cysylltwch â llinell wybodaeth Mind neu wasanaeth cyngor cyfreithiol Mind.

Ffôn: 0300 123 3393

Ymweld â’r Wefan

Mindline Trans+

Mae llinell gymorth Mindline Trans+ yn wasanaeth gwrando cyfrinachol, di-duedd ar gyfer pobl sy’n uniaethu fel Trans+, anneuaidd, a’u ffrindiau a theuluoedd.

Ffôn: 0300 330 5468 Ar agor dydd Llun - Gwener 8pm-canol nos

Ymweld â’r Wefan

NHS Carers Direct

Cyngor a gwybodaeth cyfrinachol am ddim ar gyfer gofalwyr.

Ffôn: 0808 802 0202 - Mae llinellau ar agor 8am - 9pm Dydd Llun – Gwener, a 11am - 4pm ar y penwythnos.

Ymweld â’r Wefan

No Panic

Ffôn: 0808 808 0545 - 10am – 10pm bob dydd

Ymweld â’r Wefan

SANE

Mae SANE yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol, tu allan i oriau, sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth emosiynol arbenigol i unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl, gan gynnwys teulu, ffrindiau a gofalwyr.

Ffôn: 0845 767 8000 - bob diwrnod o’r flwyddyn rhwng 6pm - 11pm

Ymweld â’r Wefan

Women’s Self Injury Helpline

Cefnogaeth emosiynol, rhywun i wrando ac sy’n cynnig arwyddbyst i ferched sy’n cael eu heffeithio gan hunan-niwed.

Ffôn: Rhadffôn 0808 800 8088 – Dydd Llun - Gwener 7 – 10pm a Dydd Iau 3 – 6pm.

View File