Mae DOLs yn digwydd pan nad oes gan unigolyn gapasiti i roi caniatâd i fod mewn ysbyty neu gartref gofal.
Beth yw trefniadau diogelu wrth amddifadu rhyddid?
Maent yn berthnasol pan:

  • Nad yw unigolyn yn meddu ar y capasiti i roi caniatâd i fod mewn ysbyty neu gartref gofal, er enghraifft, oherwydd ei fod yn dioddef o ddementia difrifol, neu i’r trefniadau ar gyfer ei driniaeth a gofal.
  • Ac mae’r ysbyty neu’r cartref gofal yn rheoli bywyd yr unigolyn i raddau helaeth.
  • Ac ni fyddai’r unigolyn yn rhydd i adael, pe bai’n gofyn gwneud hynny.

Gellir ystyried fod rhyddid unigolyn yn cael ei amddifadu hyd yn oed os mae’n hapus yn aros ble mae’n byw, ac nid y am adael, oherwydd mae’r holl bethau uchod yn berthnasol.

Beth yw diben y Trefniadau Diogelu?
Y rheswm dros y trefniadau diogelu yw i sicrhau fod Amddifadu Rhyddid:

  • Yn cael ei osgoi ble bynnag fo’n bosibl.
  • Yn cael ei awdurdodi’n unig mewn achosion lle mae er budd pennaf yr unigolyn dan sylw, a’r unig ffordd i’w gadw’n ddiogel.
  • Yn parhau am gyfnod mor fyr â phosibl.
  • Yn sicrhau fod unrhyw gynllun gofal yn rhoi cymaint o ryddid â phosibl i’r unigolyn dan sylw.
Sut mae asesiadau'n cael eu gwneud?
Mae meddyg arbenigol cymwys a gweithiwr cymdeithasol neu nurs sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ym maes DoLS yn gwneud yr asesiadau.  Y gweithiwr cymdeithasol neu’r nurs, a elwir yn Aseswr Budd Pennaf, yn penderfynu a yw rhyddid unigolyn yn cael ei amddifadu, a yw hynny er budd pennaf yr unigolyn, ac a yw’n bosibl gwneud unrhyw newidiadau i’r cynllun gofal i roi mwy o ddewis neu ryddid i’r unigolyn dan sylw, er enghraifft, y cyfle i fynd allan mwy. Wedyn mae panel o reolwyr yn ystyried yr asesiadau i wirio eu bod yn bodloni’r gofynion cyn cytuno i DoLS .
Sut gall rhywun apelio yn erbyn hyn
Caiff ‘cynrychiolydd person perthnasol’ ei benodi – fel arfer aelod o’r teulu agos, neu Eiriolwr Capasiti Meddyliol Annibynnol  (IMCA). Gall yr aelod o’r teulu gael cefnogaeth IMCA pe bai angen. Yn y pen draw gellir gofyn i’r Llys Gwarchod wneud penderfyniad.
Eisiau gwybod mwy?

Croeso ichi ffonio Tîm DoLS Cyngor Sir Powys  ar 01597 826843.