Ymddiheurwn nad yw rhai tudalennau o’r wefan Gymraeg wedi eu cwblhau eto. Mae’r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a byddant yn fyw yn fuan iawn.
We apologise that some pages of the Welsh site are not yet complete. These are currently under construction and will be live very soon.

Pum ffordd at Les

Cyfres o gamau yw’r Pum Ffordd i Lesiant sy’n cael eu cydnabod am wella llesiant unigolion. Y pum ffordd yw: Cysylltu, Bo dyn Egnïol,  Cymryd Sylw, Parhau i Ddysgu a Rhoi.

Mae’r gweithgareddau syml hyn yn bethau y gall unigolion eu cyflawni yn eu bywydau bob dydd. Gellir lawrlwytho Cynllun Gweithredu Pum Ffordd i Lesiant yma.

Cysylltu
Gyda phobl o’ch cwmpas, cyfle i gysylltu â theulu, ffrindiau a chymdogion.  Yn eich cartref, yr ysgol, yn y gwaith neu yn eich cymuned leol. Gellir ystyried y rhain yn gonglfeini eich bywyd, a chlustnodi amser i’w datblygu.  Trwy feithrin y cysylltiadau hyn, byddwch yn cael eich cefnogi a byddant yn eich cyfoethogi bob dydd.
Bod yn egnïol
Ewch am dro neu i redeg.  Ewch allan i’r awyr agored. Ewch ar eich Beic neu chwarae gêm.  Gwneud ychydig o arddio, dawnsio. Mae ymarfer egnïol yn gwneud ichi deimlo’n dda.  Yn anad dim, chwiliwch am weithgaredd corfforol rydych yn ei fwynhau, un sy’n addas i’ch lefel symudedd a ffitrwydd.
Cymryd sylw
Byddwch yn chwilfrydig. Talwch sylw i harddwch, a nodwch yr anghyffredin, Sylwch ar y tymorhau wrth iddynt newid. Mwynhewch bob eiliad, boed hynny ar drên, wrth fwyta cinio, neu sgwrsio gyda ffrindiau. Byddwch yn ymwybodol o’r byd o’ch cwmpas, a’ch teimladau. Trwy fyfyrio ar eich profiadau, bydd yn eich helpu i werthfawrogi’r hyn sy’n bwysig ichi.
Parhau i ddysgu
Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Neu atgyfodi hen ddiddordeb. Beth am gofrestru ar gyfer cwrs. Neu gallwch ysgwyddo cyfrifoldeb gwahanol yn eich gwaith. Trwsio beic. Dysgu chwarae offeryn neu sut i goginio eich hoff fwydydd. Gosod her fydd yn rhoi pleser ichi o’i wireddu. Bydd dysgu pethau newydd yn rhoi mwy o hyder ichi, yn ogystal â bod yn hwyl.
Creu neu roi
Gwnewch rywbeth caredig ar gyfer ffrind neu rywun dieithr. Diolch i rywun.  Gwenwch.  Beth am wirfoddoli eich amser.  Ymunwch â grwp cymunedol. Edrychwch tu allan, yn ogystal â thu mewn. Gall gweld eich hunan a’ch hapusrwydd yn gysylltiedig â’r gymuned ehangach fod hyn hynod werth chweil, a bydd yn creu cysylltiadau gyda’r bobl o’ch cwmpas.

Lluniwyd y gweithredodd hyn gan y New Economics Foundation yn 2008.

Arfer y Pum Ffordd at Les
Mae tîm Iechyd Meddwl PAVO wedi ystyried y gweithredoedd mewn perthynas â’u bywydau dyddiol eu hunain, fan hyn.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys wedi ystyried y Pum Ffordd at Les o safbwynt y gweithle.

Mae pum aelod o’r is-grwp Ymgysylltu er mwyn Newid, o Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys, wedi ysgrifennu am eu profiadau mewn perthynas â’r Pum Ffordd at Les.

Mae pobl a sefydliadau eraill wedi ystyried arwyddocâd y Pum Ffordd at Les o’u safbwynt nhw.  Gweler isod dolenni at eu straeon.

The Ecologist Practicing the Five Ways to Wellbeing
Rhwydwaith Gwent – Pum Ffordd at Les