“Mae adferiad yn golygu byw’n dda.”
“Taith o dwf personol a thrawsnewid.”
“Mae pobl sydd â diagnosis seiciatrig yn gwella ac yn aros yn iach.”
“Gobaith, rheolaeth, cyfleoedd.”

Rhannwch eich hanes chi gyda ni er mwyn inni eiu rhannu ar y dudalen hon. Cliciwch fan hyn i rannu eich stori – beth yw arwyddocâd adfer ichi?

Adborth

“Teimlo boddhad, ac aros yn iach”.

“Imi, mae adferiad yn golygu meistroli eich meddwl eich hun a chael hunan-reolaeth – i drin eich hunan ac eraill gyda pharch a bod yn rhydd rhag hunan-amheuaeth a hunanfeirniadaeth ddifrïol.”

Ble gallaf gael hyd i fwy o wybodaeth am adferiad?

Trwy siarad ag eraill, yn enwedig pobl debyg ichi sydd ar daith debyg. Gall pawb rhannu profiadau a bod yn greadigol gyda’n gilydd wrth geisio llesiant personol.

Ar y rhyngrwyd

Dyfodol DIY Powys yw prosiect a seilir ar egwyddorion adferiad, a dull o weithio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Gellir lawrlwytho cyflwyniad ar adferiad a luniwyd gan y tîm Dyfodol DIY fan hyn.

Mae gwybodath am adferiad ar gael hefyd ar wefan Cyngor Sir Powys fan hyn.

Dyma rai enghreifftiau o wefannau eraill lle gallwch ymchwilio i a dysgu mwy am adferiad; fodd bynnag os hoffech dderbyn cymorth i ddysgu rhagor, croeso ichi gysylltu â’r gwasanaeth gwybodaeth:

Mae Inter Voice yn gweithio ledled y byd i rannu negeseuon cadarnhaol llawn gobaith am y profiad o glywed lleisiau. Os ydych chi’n clywed lleisiau, neu’n adnabod rhywun sy’n eu clywed, neu os hoffech ddysgu mwy am y profiad hwn, mae’r wefan hon yn ddelfrydol ichi.

Llyfrau ar thema adferiad

Os ydych yn mwynhau darllen, mae llawer o lyfrau ac erthyglau am adferiad ar gael. Dyma rai enghreifftiau, ond eto os hoffech gael cymorth i ddysgu mwy cysylltwch â’r gwasanaeth gwybodaeth.

Adfer yn sgil Iechyd Meddwl: Ailsiapio Cyfrifoldebau Gwyddonol a Chlinigol gan Michaela Amering, Margit Schmolke. Am ddim ar-lein.
PCCS Books – Publisher of counselling and psychotherapy books and journals

Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer ffynonellau gwybodaeth eraill ar adferiad fyddai’n defnyddiol eu rhannu, croeso ichi gysylltu â ni trwy ebostio mentalhealth@pavo.org.uk neu drwy ffonio 01686 628 300.

Datblygu colegau adfer

Gellir dysgu mwy o wybdoaeth fan hyn.
Peers as Partners: Sut mae Colegau Dysgu Adfer Lloegr yn newid y Diwylliant. Mwy fan hyn.