Eich hawliau a deddfwriaeth iechyd meddwl

Mae deddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru a’r DU yn gannoedd o dudalennau mewn hyn, a gall fod yn amhosibl ei dilyn heb radd yn y gyfraith. Er hynny, mae llawer o adnoddau ar gael sy’n gallu eich helpu i gadarnhau beth yw eich hawliau, a’ch hawliau wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Gweler isod, nifer ohonynt a gasglwyd at eich defnydd.

Hawliau 

Gallwch ddarllen am y Ddeddf Iechyd Meddwl yma: https://www.nhs.uk/mental-health/social-care-and-your-rights/mental-health-and-the-law/mental-health-act-easy-read/

Eiriolaeth ym Mhowys

Mae eiriolaeth yn golygu “gweithredu i helpu pobl ddweud eu dweud, diogelu eu hawliau, a derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Mae tair rôl eiriolaeth wahanol ym Mhowys:

Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol – IMHA

Mae IMHA yn darparu eiriolaeth i bobl sydd yn “gleifion gorfodol cymwys” neu’n “gleifion anffurfiol cymwys” dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.  Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n cael eu cadw ar ward iechyd meddwl fel claf mewnol, megis Ward Felindre ym Mhowys.

Gallwch gysylltu âch gwasanaeth IMHA lleol trwy ddefnyddio’r manylion isod:

Rhif ffôn: 01745 813 999
Ebost: admin@cadmhas.co.uk
Gwefan: www.camhas.co.uk 

Eiriolwr Capasiti Meddyliol Annibynnol – IMCA

Mae IMCA yn darparu eiriolaeth o bobl heb y capasiti i wneud penderfyniadau penodol, ac nid oes ganddynt unrhyw un i’w cefnogi na’u cynrychioli. 

Gallwch gysylltu â’ch  Eiriolwyr Capasiti Meddyliol Annibynnol trwy ddefnyddio’r manylion isod:

Lynda Evans, Eiriolwr Iechyd Meddwl Gogledd Powys ar gyfer pobl dan 65 oed
d/o Ysbyty’r Drenewydd, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd, Powys, SY16 2DW
Ffôn symudol: 07736 120924
Ebost: lynda.evans3@wales.nhs.uk

Linda Woodward, Eiriolwyr Iechyd Meddwl Gogledd Powys ar gyfer pobl dros 65 oed
d/i Ysbyty’r Drenewydd, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd, SY16 2DW
Ffôn symudol: 07974 935355
Ebost: linda.woodward2@wales.nhs.uk

Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae gan bobl sy’n cael cysylltiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl statudol (Timau Iechyd Meddwl Cymunedol neu Ddatrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref) dros 18 oed ym Mhowys hawl i dderbyn cymorth Eiriolwr Iechyd Meddwl Cymunedol pe dymunir.

Gallwch gysylltu â’r Eiriolwyr Iechyd Meddwl Cymunedol lleol trwy ddefnyddio’r manylion isod:

Kirstie Morgan, Eiriolwr Iechyd Meddwl De Powys
Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR
Ffôn symudol: 07967 808145
Ebost: kirstie.morgan@wales.nhs.uk

Lynda Evans, Eiriolwyr Iechyd Meddwl Gogledd Powys ar gyfer pobl dan 65 oed
d/o Ysbyty’r Drenewydd, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd, Powys, SY16 2DW
Ffôn symudol: 07736 120924
Ebost: lynda.evans3@wales.nhs.uk

Linda Woodward, Eiriolwyr Iechyd Meddwl Gogledd Powys ar gyfer pobl dros 65 oed
d/o Ysbyty’r Drenewydd, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd, Powys, SY16 2DW
Ffôn symudol: 07974 935355
Ebost: linda.woodward2@wales.nhs.uk

Gallwch ddysgu mwy am y rolau eiriolaeth gwahanol yng Nghymru, a sut y gall eiriolwyr helpu ar y dudalen hon ar wefan Mind

Llais – Eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Llais yn darparu gwasanaeth cwynion eiriolaeth cyfrinachol, annibnnol ac am ddim i bobl sydd eisiau cymorth i godi pryderon am wasanethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mwy fan hyn.

Anfon rhywun i ysbyty meddwl - Adrannau 135 a 136
Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau mewn perthynas â phwerau’r heddlu o safbwynt cadw claf dan orchymyn. 

Beth yw’r gwahaniaeth:

Mae adrannau 135 a 136 yn delio gyda phwerau’r heddlu i’ch cadw dan orchymyn a mynd â chi i le diogel os oes amheuaeth resymol o credu eich bod yn dioddef o afiechyd meddwl AC yn berygl i chi’ch hunan neu eraill.

Byddai Adran 135 yn cael ei ddefnyddio mewn achos unigolyn sy’n wael yn ei gartref ei hun, tra byddai Adran 136  yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfa tu allan i gartref preifat.

Adran135:

Defnyddir Adran 135 i ganiatau i’r heddlu ddod mewn i’ch cartref a mynd â chi i le diogel. Mae’n rhaid cael warant gan lys ynadon gan weithwir proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHP) i ganiatau hyn. Wedyn gall yr heddlu fynd â chi i le diogel dynodedig.


Adran136:

Mae Adran 136 yn caniatau i’r heddlu eich cadw dan orchymyn a mynd â chi i le diogel os ydych tu allan i gartref preifat.  Mae’n rhaid iddyn nhw ymgynghori ag AMHP, gweithiwr meddygol proffesiynol cofrestredig, nyrs, therapydd galwedigaethol neu barafeddyg ymlaen llaw.

Lle Diogel:

Gall lle diogel olygu:

  • ysbyty
  • cartref gofal
  • gorsaf yr heddlu
  • eich cartref neu ystafell eich hun neu rywun arall
  • lleoliad addas arall lle mae rheolwr yr eiddo’n cytuno.

Ym Mhowys, mae swît Adran 136 arbenigol dynodedig yn Ysbyty Bronllys.  Fel arfer, byddech yn cael eich cymryd yno, ond gallwch fynd i leoliadau eraill a bennir yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Unwaith y byddwch mewn lle diogel, gellir eich cadw yno am hyd at 24 awr i gael eich asesu, a gellir ymestyn hyn 12 awr arall os nad oedd yn bosibl cyflawni asesiad o fewn yr 24 awr cyntaf.

Gellir defnyddio eich cartref neu’ch ystafell fel lle diogel gyda’ch caniatâd chi, ac os ydych chi’n byw gyda phobl eraill, gyda’u caniatâd nhw hefyd. Gellir defnyddio cartref neu ystafell rhywun arall yn unig gyda chaniatâd y ddau ohonoch.

Gellir defnyddio gorsaf yr heddlu fel lle diogel os bydd eich ymddygiad yn peri risg uniongyrchol o anaf difrifol neu farwolaeth i chi’ch hunan neu i rywun arall. Mae’n rhaid i arolygydd awdurdodi’r penderfyniad hwn, ar ôl ymgynghori gyda meddyg cofrestredig, nyrs gofrestredig, ymarferydd gofal iechyd priodol, neu therapydd galwedigaethol neu barafeddyg.

Fforwm Gofal mewn Argyfwng
Fforwm Gofal mewn Argyfwng

Ym Mhowys, mae Fforwm Gofal mewn Argyfwng sy’n cynnwys yr asiantaethau amrywiol sy’n cael cyswllt gyda rhywun sy’n destun penderfyniad i gael ei anfon i ysbyty meddwl, er enghraifft, yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, staff meddygol a chynrychiolydd ar ran defnyddwyr gwasanaeth. Maent yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn i ystyried astudiaethau achos ac ystadegau mewn perthynas ag achosion o weithredu Adrannau 135 a 136 ym Mhowys i sicrhau eu bod yn dilyn y rheoliadau. 

I ddysgu mwy am y grwp yma, anfonwch ebost at owen.griffkin@pavo.org.uk