Ymddiheurwn nad yw rhai tudalennau o’r wefan Gymraeg wedi eu cwblhau eto. Mae’r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a byddant yn fyw yn fuan iawn.
We apologise that some pages of the Welsh site are not yet complete. These are currently under construction and will be live very soon.

Profiad bywyd

Profiadau bywyd yw eich gwybodaeth bersonol am y byd, a ddatblygwyd trwy gysylltiad uniongyrchol, ymarferol mewn diwgyddiadau bob dydd, yn hytrach na thrwy gynrychiolaethau sy’n cael eu llunio gan bobl eraill. Gallwch ddefnyddio eich profiadau bywyd i helpu siapio, cynllunio a chyflenwi gwasanaeth iechyd meddwl sy’n sicrhau taw pobl yw’r flaenoriaeth.

Gallwch ddefnyddio eich profiadau uniongyrchol, personol ym maes iechyd meddwl i helpu siapio, cynllunio a chyflenwi gwasanaeth iechyd sy’n blaenoriaethu pobl.

Prosiect a Llyfr Straein Dyfodol DIY 2012 – 2014

Rhwng 2012-2014 roedd y prosiect straeon Dyfodol DIY ar y gweill, yn dod â phobl at ei gilydd oedd â phrofiad bywyd o drallod meddyliol a staff y prosiect. Buon nhw’n gweithio ochr yn ochr i wrando ar a chofnodi straeon pobl ledled Powys, ac arweinidd hyn at gyhoeddu llyfr clawr caled gyda’r teitl “it’s the inside that matters”.

Mae’r e-lyfr ar gael nawr  … cliciwch ar y llun isod i gael cip arno!

Prosiect Hanesion Iechyd Meddwl 2007-2011

Astudiaeth ymchwil weithredol gyfranogol oedd y brosiect hwn a barodd am bedair blynedd; darn o waith ar y cyd oedd a hwyluswyd gan y gawsanaethau iechyd meddwl statudol gan nyrs reolwr iechyd meddwl oedd yn gweithio ochr yn ochr â chwe unigolyn; newidiodd eu statws nhw o fod yn ‘ddefnyddwyr gwasanaeth’ i gyd-ymchwilydd dros y cyfnod hwn.  Prif ffocws yr astudiaeth oedd y chwe ‘ymchwilydd oedd yn ddefnyddwyr gwasanaeth’ yn cyfweld â 31 o bobl oedd â diagnosis ar ypryd o afiechyd meddwl difrifol a pharhaus oedd yn derbyn mewnbwn gan y gwasanaethau iechyd meddwl statudol. Cafodd yr holl gyfweliadau eu cofnodi ar ffurf glywedol a’u trawsysgrifio gair am air. Wedyn cafodd y trawsgrifiadau eu mapio a’u dadansoddi gan y tîm ymchwil gan ddefnyddio dadansoddiad ffenomolegol dehongliadol (IPA). Er mwyn galluogi pobl i ymgymryd â’r rolauhyn, roedd yr astudiaeth yn cynnwys proses o gyfweld a phenodi ymchwilwyr oedd yn ddefnyddwyr gwasanaeth, i’w ddilyn gan raglen o weithdai hyfforddi, trefnu cymorth ar sail grwp/cyfoedion o ran goruchwyliaeth a thrafod a hwyluswyd gan y nyrs reolwr iechyd meddwl trwy gydol y rhaglen.
Gellir darllen mwy am y prosiect yma ac mae’r papur ymchwil llawn ar gael fan hyn.
Rhaglen Astudiaeth Achos 1000+ Bywyd 2012. Partneriaeth gyda chleifion trwy straeon er gwella.
Cyflwyniad ar y cyd am y prosiect ymchwil.

Sylwadau pobl am gymryd rhan ...

“Rydym wedi newid o fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth i fod yn ymchwilwyr, hunaniaeth gadarnhaol sydd wedi ein hysgogi; ie, rydym yn ddefnyddiol, mae gennym bwrpas, rydym yn cael ein gwerthfawrogi ai helpu llunio darn o waith anhygoel; i lawer ohonom, rydym wedi magu hyder eto, ynghyd â brwdfrydedd a diben, yn ogystal â’r teimlad anhygoel o deimlo’n falch i fod yn rhan o brosiect mor ddewr. Inni, mae’r profiad o fod yn rhan o dîm, rhannu, cefnogi, darganfod ac yn bwysig iawn, chwerthin gyda’n gilydd, wedi bod yn hynod gadarnhaol.”
“Gobeithio y bydd y weithred o adrodd ein straeon yn gwneud ychydig o wahaniaeth; dylai gwneud hynny; dyna’r peth pwysicaf amdanom”.

Rhannu'r hyn a ddysgwyd o'r prosiectau straeon

Straeon er Gwelld – Cyfres Hyfforddi 1000 + Bywyd – gwybodaeth ym maes hyfforddiant i gefnogi sefydliadau’r GIG yng Nghymru i ledu’r defnydd o straeon i wella. Mwy fan hyn.
Rwhydwaith Adfer yr Alban. Gall dysgu am feddyliau pobl eraill a straeon adfer ysbrydoli gobaith a herio  rhagdybiaethau. Fe welwch nifer o straeon a gyflwynwyd fan hyn.