Ymddiheurwn nad yw rhai tudalennau o’r wefan Gymraeg wedi eu cwblhau eto. Mae’r rhain yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a byddant yn fyw yn fuan iawn.
We apologise that some pages of the Welsh site are not yet complete. These are currently under construction and will be live very soon.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)

Y brif ddeddf sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ym Mhowys, ac yn wir drwy Gymru, yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru). Gallwch ddarllen am y mesur, a’r strategaethau a ddatblwyd gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys mewn perthynas ag iechyd meddwl, ar y tudalennau hyn. Hefyd ceir gwybodaeth am Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu Rhyddid

Deddf a wnaethpwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw hon, i helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl mewn pedair ffordd wahanol.
Mesur Iechyd Meddwl Cymru
Deddf newydd yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010  a wnaethpwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fydd yn helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl mewn pedair ffordd wahanol.

Nod y Mesur yw sicrhau fod gofal priodol yn bodoli ar draws Cymru, sy’n canolbwyntio ar anghenion iechyd meddwl pobl. Mae mwy o wybodaeth ar y Mesur ar gael o wefan Llywodraeth Cymru yma.

Mae’r Mesur yn gosod dyletswyddau ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a defnyddir dulliau casglu data i fonitro a gwerthuso perfformiad pob ardal yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth am Ran 1 y Mesur, a diffiniadau data mewn perthynas â’r wybodaeth a gesglir, cliciwch yma.

Am ragor o wybodath ar Rannau 2 a 3 y Mesur, a diffiniadau data mewn perthynas â’r wybodaeth a gesglir, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth ar Ran 4 y Mesur, a diffiniadau data mewn perthynas â’r wybodaeth a gesglir, cliciwch yma.

Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Lleol Sylfaenol
Bydd y Mesur yn sicrhau fod mwy o wasanaethau ar gael y gall eich Meddyg Teulu eich cyfeirio atynt os oes gennych broblemau iechyd meddwl megis pryder neu iselder. Bydd y gwasanaethau hyn, a all gynnwys er enghraifft cwnsela, rheoli straen a phryder, ar gael naill ai yn eich meddygfa leol, neu mewn leloliad cyfleus arall, felly bydd yn haws eu cyrraedd.

Mae’r Rhan yma o’r Mesur yn pennu bod gofyn i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol gydweithio i sefydlu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Lleol Sylfaenol ledled Cymru. Mae gwybodaeth am Ran 1 y Mesur ar gael gan Lywodraeth Cymru fan hyn.

Byddwch hefyd yn cael gwybod am wasanaethau eraill a all fod o gymorth ichi, megis y rhai a ddarperir gan grwpiau megis grwpiau gwirfoddol lleol, neu gyngor ar arian a thai.

Ers 1 Hydref 2012 gall eich Meddyg Teulu eich cynorthwyo i gael mynediad at wasanaethau newydd fydd ar gael yn lleol i helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl megis pryder, iselder, colli’r cof ac anawsterau ymddygiadol ac emosiynol.

Gellir lawrlwytho poster am hyn  fan hyn.

Gellir dysgu rhagor am gael cymorth gan eich Meddyg Teulu fan hyn.

Cydlynu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth
Mae rhai pobl yn cael problemau iechyd meddwl sy’n golygu bod angen gofal a chymorth mwy arbenigol, (a ddarperir weithiau mewn ysbyty). Os ydych yn derbyn y gwasanaethau hyn, bydd gweithiwr proffesiynol megis seiciatrydd, seicolegydd, nurs neu weithiwr cymdeithasol yn goruchwylio eich gofal a’ch triniaeth.

Yr enw ar y bobl hyn yw Cydlynwyr Gofal, ac byddant yn llunio cynllunio gofal a thriniaeth ar eich cyfer – trwy weithio gyda chi cymaint â phosibl. Bydd y cynllun yn olrhain y nodau rydych yn gweithio tuag atynt, a’r gwasanaethau fydd yn cael eu darparu gan y GIG a’r awdurdod lleol i’ch helpu eu gwireddu. Mae’n rhaid adolygu’r cynllun hwn o leiaf unwaith y flwyddyn gyda chi.

Mae rhan 2 y Mesur yn gosod dyletswyddau ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gydweithio.. Mae rhagor o wybodaeth am Ran 2 y Mesur ar gael trwy Lywodraeth Cymru yma.

Asesu pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol o’r blaen

Mae’r rhan yma o’r Mesur yn caniatáu mynediad haws yn ôl i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar gyfer pobl sydd wedi cael eu rhyddhau o’r blaen. Ceir mynediad at wybodaeth am Ran 3 gan Lywodraeth Cymru fan hyn.

Os ydych wedi derbyn triniaeth arbenigol yn y gorffennol, a chawsoch eich rhyddhau oherwydd i’ch cyflwr wella, ond erbyn hyn, rydych o’r farn fod eich iechyd meddwl yn dirywio, gallwch fynd syth yn ôl at y gwasanaeth iechyd meddwl oedd yn gofalu amdanoch o’r blaen, a gofyn iddyn nhw wirio a oes angen unrhyw gymorth neu driniaeth arall arnoch. Nid oes gofyn ichi fynd at eich Meddyg Teulu yn gyntaf, er hwyrach y byddwch am drafod y sefyllfa. Gallwch ofyn am hyn hyd at dair blynedd ar ôl cael eich rhyddhau gan y tîm arbenigol.

Daeth hyn i rym ar 6ed Mehefin 2012 ar gyfer cleifion sydd wedi cael eu rhyddhau gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ers 6ed Mehefin 2010.
Ym Mhowys, os ydych wedi cael eich rhyddhau gan un o’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, dylech fod wedi derbyn manylion cyswllt, a manylion o ran sut i ofyn am asesiad uniongyrchol. Mae manylion eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ar gael isod:

Aberhonddu a’r Ardal

Cyfeiriad: Heol y Bont, Llanfaes, Aberhonddu, Brecon LD3 8AH
Ffôn: 01874 711661

Llandrindod

Cyfeiriad: The Hazels, Stryd y Deml, Llandrindod LD1 5HF
Ffôn: 01597 825888

Y Drenewydd a’r Ardal

Cyfeiriad: Fan Gorau, Ffordd Llanfair, Y Drenewydd SY16 2DW
Ffôn: 01686 617 300

Y Trallwng

Cyfeiriad: Bryntirion, Ffordd Salop, Y Trallwng SY21 7DU
Ffôn: 01938 555076 / 01938 558969

Ystradgynlais

Cyfeiriad: The Larches, Penrhos, Ystradgynlais SA9 1QL
Ffôn: 01639 849994

Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Mae’r rhan yma o’r Mesur yn sicrhau fod gan bob claf mewnol yng Nghymru sy’n derbyn asesiad neu driniaeth ar gyfer anhwylder iechyd meddwl hawl i ofyn am gymorth Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol. Ceir mynediad at wybodaeth am Ran 4 gan Lywodraeth Cymru fan hyn.

Gall eiriolaeth arwain at well profiad o ran gwasanaethau iechyd meddwl i unigolion; mae’n gallu creu dewis, gwella cyfraniadau at wneud penderfyniadau, a hyrwyddo mynediad at amrediad o wasanaethau gwahanol.

Bydd y Mesur yn eich galluogi i gael mynediad at help a chymorth gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA) os ydych yn destun Deddf Iechyd Meddwl 1983 (cleifion ffurfiol) ac os ydych yn treulio cyfnod yn yr ysbyty ar sail anffurfiol (cleifion gwirfoddol). Bydd dyletswyddau statudol newydd yn helpu sicrhau fod help a chymorth ar gael i BOB claf mewnol, er mwyn i eiriolaeth eu helpu wrth wneud penderfyniadau deallus am eu gofal a’u triniaeth, a’u cefnogi i fynegi eu barn.

Mae manylion cyswllt gwasanaeth eiriolaeth Powys ar gael isod:

Cysylltiadau Eiriolaeth Iechyd Meddwl

De Powys

Kirstie Morgan

Cyfeiriad: Ystafell 36, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys LD3 7HR
Ffôn: 01874 615996 neu 07967 808 145

Gogledd Powys

Lynda Evans

Cyfeiriad: Fan Gorau, Ysbyty Sirol Maldwyn, Y Drenewydd SY16 LD2
Ffôn: 07736 120 924
Fideos defnyddiol
Mae Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru (RhIMmGSyNgh) wedi creu cyfres o fideos byrion  i helpu staff gofal sylfaenol ledled Cymru i ddeall Rhan 1 y Mesur Iechyd Meddwl.

Adnoddau hyfforddi

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi adnoddau hyfforddi i helpu unrhyw un sydd am wella eu dealltwriaeth o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Datblygwyd yr adnoddau mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a sefydliadau trydydd sector, Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol.

Yn eu plith mae pynciau megis trosolwg o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru), yr hyn y mae defnyddwyr gwasanaeth ei eisiau o’r broses o gynllunio gofal a thriniaeth, rôl cydlynwyr gofal, a gofynion cynlluniau Gofal a Thriniaeth.

Gwybodaeth bellach
Mae Canllawiau Hafal ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) ar gael fan hyn.

Dyma ddolen i 10 ffaith ddiddorol am y Mesur Iechyd Meddwl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Mesur Iechyd Meddwl, a’i arwyddocâd o’ch safbwynt chi, croeso ichi gysylltu â:
mentalhealthandvulnerablegroups@wales.gsi.gov.uk neu drwy ffonio 02920 370 011

Os oes gennych wybodaeth am y Mesur yr hoffech ei rhannu ar y dudalen hon, croeso ichi gysylltu â mentalhealth@pavo.org.uk neu gallwch ffonio’r tîm ar 01686 628300.

Adolygiad Llywodraeth Cymru 2014 - 15
Adolygiad 2014-15 Llywodraeth Cymru o Fesur Iechyd Meddwl 2010.

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn olrhain uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella iechyd meddwl a’i gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn yr 21ain ganrif.

Mae Mesur Iechyd Meddwl 2010 yn ddeddfwriaeth unigryw, sy’n cynnig fframwaith cyfreithiol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae Adran 48 y Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithredu’r Mesur o fewn pedair blynedd ar ôl iddo ddod i rym.

Bellach cyhoeddwyd yr Adroddiad ‘Dyletswydd i Adolygu’ ac mae ar gael yma.

Craffu ôl-ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Cynhaliwyd craffu ôl-ddeddfwriaethol gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2014 i asesu sut y cafodd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei gyflawni a’i weithredu, yn benodol trwy:

  • asesu i ba raddau y gwireddwyd yr amcanion a nodwyd yn y Mesur;
  • adnabod a yw’n bosibl dysgu unrhyw wersi neu rannu arferion da yn sgil deddfu a gweithredu’r Mesur ac unrhyw ddeddfwriaeth a chanllawiau atodol cysylltiedig;
  • asesu a yw’r Mesur wedi cynrychioli, a a fydd yn parhau i gynrychioli, gwerth am arian.

Cyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad yn Ionawr 2015, oedd yn cynnwys 10 argymhelliad, sydd i’w gweld fan hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i argymhellion yr adroddiad yn Chwefror 2015, a gallwch weld yr ymateb fan hyn.

Cynhaliwyd dadl yng Nghynulliad Cymru ar yr argymhellion ar 4 Mawrth 2015. Gellir darllen cofnod o’r drafodaeth (sy’n cychwyn am 15.09) fan hyn.

Y Cynnig Rhagweithiol
Y Cynnig Rhagweithiol yw un o brif egwyddorion ‘Mwy na geiriau…’, fframwaith strategol a ddyluniwyd ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau Cymreig yn y meysydd hyn.