Cynrychiolwyr unigol

Mae cydgynhyrchu’n rhan bwysig o sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cyflenwi ym Mhowys, ac un ffactor mewn perthynas â hyn yw grŵp o gynrychiolwyr sydd wedi naill ai defnyddio, neu sy’n gofalu am rywun sydd wedi defnyddio, gwasanaethau iechyd meddwl. Mae’r gwirfoddolwyr di-dâl hyn yn eistedd ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol a chenedlaethol, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, gweithwyr meddygol proffesiynol, rheolwyr gofal cymdeithasol i oedolion a phlant Cyngor Sir Powys a grwpiau gwirfoddol

Mae’r cynrychiolwyr yno i sicrhau y caiff llais y defnyddiwr/gofalwr ei gynnwys wrth gynllunio gwasanaethau, ac maent ar gael drwy’r amser i wrando ar eich profiadau a’r problemau sy’n effeithio arnoch er mwyn rhoi adborth ar hyn i’r grwpiau partneriaeth. Gallwch gysylltu â’r cynrychiolwyr drwy e-bostio’r Swyddog Cyfranogiad ar mentalhealth@pavo.org.uk neu drwy ffonio 01597 822191.

Hefyd, os hoffech drafod fod yn gynrychiolydd eich huna, cysylltwch a Swyddog Cyfranogiad am fwy o fanylion.

Digwyddiadau cwrdd â’ch cynrychiolydd

Byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd i Gwrdd â’ch Cynrychiolydd ym Mhowys yn sgil ymlacio rheolau’r cyfnodau clo.

Sesiynau taro heibio anffurfiol iawn fydd y rhain, a bydd un o gynrychiolwyr Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn bresennol. Meddai Sarah Dale, fydd yn bresennol yn y digwyddiadau hyn “Byddaf yn picio heibio  Ponthafren yn y Trallwng a’r Drenewydd ar gyfer y digwyddiad ‘Cwrdd â’ch Cynrychiolydd’. Bydd yn gyfle i daro heibio a chael sgwrs gyda ni a rhannu eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu o ofalu am rywun sy’n eu defnyddio, er mwyn inni hyrwyddo lleisiau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn well ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd paned o de a bisgedi ar gael hefyd.”

 

 

Ffurflen Adborth

Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys?

Mae cynrychiolwyr unigol yn annog pobl i roi rhywfaint o adborth am eu profiad o’r gwasanaethau hyn.

Gallwch gael mynediad at y ffurflen adborth hon ar-lein YMA.

 

 

Cylchlythyr Arbenigwyr trwy Brofiad

Dros y 2 flynedd diwethaf, mae PAVO a chynrychiolwyr unigol wedi casglu manylion pobl sydd â diddordeb mewn bod yn ‘Arbenigwyr trwy Brofiad’.  Hyd yma, mae dros 50 o bobl wedi mynegi diddordeb, ac rydym yn ymwybodol na fydd gennym efallai digon o gyfleoedd i roi cyfle i bob ymatebwr gymryd rhan mewn cynllunio a chyflenwi gwasanaethau.

Rydym yn delio gyda hyn trwy ddosbarthu cylchlythyr rheolaidd, sy’n casglu cyfleoedd cydgynhyrchu cyfredol, ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, a thrwy dynnu sylw at waith a wneir gan y cynrychiolwyr presennol. Wrth symud ymlaen, byddem yn hoffi gweld mwy o bobl yn chwarae rhan weithgar yn y gwaith a wneir gan gynrychiolwyr unigol, a darparu dealltwriaeth drwyadol o agweddau a phrofiadau pobl o wasanaethau iechyd meddwl, er mwyn gallu eu defnyddio mewn cyfarfodydd o fyrddau partneriaeth.

Experts by Experience newsletter December 2023

Experts by Experience newsletter September 2023

Experts by Experience newsletter July 2023

Experts by Experience newsletter June 2023

Experts by Experience newsletter April 2023

Experts by Experience newsletter October 2022

Experts by Experience newsletter July 2022

Experts by Experience newsletter April 2022

Experts by Experience newsletter November 2021

Experts by Experience newsletter April 2021

Experts by Experience newsletter November 2020

Experts by Experience newsletter July 2020