Pori ein rhestr o wasanaethau a chymorth sydd ar gael drwy’r GIG i weld beth sydd ei angen arnoch.
Ffoniwch 101 neu 999
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, os credwch fod rhywun mewn perygl uniongyrchol, neu os ydych o’r farn y gall ymyrraeth gan yr heddlu helpu atal sefyllfa rhag gwaethygu. Gall yr heddlu ddefnyddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl i symud rhywun, os maent o’r farn bod perygl i’r unigolyn ei hun neu i eraill, i le diogel.
Ar gyfer Powys mae’r llefydd diogel yn Ysbyty Wrecsam yn y Gogledd, Ysbyty Bronllys yn y Canol a’r De, a Chastell Nedd Port Talbot yn ardal Ystradgynlais. Ar gyfartaledd gall cymryd 8.5 awr ar draws ardal Dyfed-Powys cyn y gellir trefnu Asesiad dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Gall asesiad felly arwain at dderbyn unigolyn i’r ysbyty’n anwirfoddol a thriniaeth seiciatrig anwirfoddol.
Tîm Dyletswydd Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol
Gallwch gysylltu â’r tîm yma tu allan i oriau ar 0845 0544847. Hefyd gallwch gysylltu â nhw os nad yw’r unigolyn am gael triniaeth; gall hyn ysgogi Asesiad dan y Ddeddf Iechyd Meddwl os ydych yn poeni fod rhywun arall yn risg i’w hunan neu eraill trwy Wasanaethau Cymdeithasol Powys. Yn ystod oriau gwaith: 01597 826 000 neu tu allan i’r oriau hyn: 01597 825 275/0845 0544847. Gall yr asesiad hwn arwain at dderbyn claf i’r ysbyty’n anwirfoddol a thriniaeth seiciatrig anwirfoddol.
Fel arall, gallwch fynd i’r Adran Brys a Damweiniau agosaf.
Llinell Gymorth C.A.L.L. (Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando)
Llinell gymorth sy’n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. 0800 132 737 neu gellir tecstio “help” i 81066.
I siarad gyda rhywun a hyfforddwyd i wrando, cysylltwch â’r Samariaid ar 116 123 (am ddim). Maen nhw ar agor 24/7.
.
Derbyn Claf i Ysbyty Seiciatrig
Os oes gwelyau ar gael, bydd claf yn cael ei dderbyn yn y lle cyntaf i:
- De Powys– Ysbyty Bronllys
- Ystradgynlais– Ysbyty Castell Nedd Port Talbot
- Gogledd– Canolfan Redwoods (Ysbyty Shelton gynt) yn yr Amwythig.
Os nad oes gwely ar gael, gellir derbyn pobl i ysbytai eraill ar draws Cymru.
Darperir Gwasanaethau Iechyd Meddwl gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys