Therapi Gwybyddol Ymddygiadol

SilverCloud Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein

Pan fydd rhywun yn cael trafferth gyda straen, pryder neu broblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, gall trigolion/cleifion ym Mhowys, 16 oed neu drosodd, cael mynediad at raglen Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein y bwrdd iechyd, sef SilverCloud, heb orfod cael apwyntiad yn gyntaf gyda meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.

Mae trigolion yn cael mynediad at SilverCloud fan hyn lle bydd angen dilyn camau syml iawn i gofrestru. Ar ôl cofrestru, mae nifer o raglenni ar gael ichi, gan gynnwys sut i ymdopi â straen, pryder ac iselder. Hefyd bydd Cefnogwr SilverCloud yn cael ei glustnodi ichi, fydd yn cysylltu â chi ac yn dod i gysylltiad bob pythefnos i weld sut mae pethau’n mynd.

Yn ôl un o aelodau SilverCloud: “Mae elfen y dyddiadur o’r rhaglen wedi bod yn hynod ddefnyddiol, yn caniatáu imi edrych yn ôl ar fy sylwadau pan roeddwn yn teimlo ar fy ngwaethaf, a sylweddoli pa mor bell rwyf wedi dod.”
Noder: Nid gwasanaeth argyfwng yw SilverCloud. Os ydych mewn argyfwng neu dan straen fawr, mae’n rhaid ichi gysylltu â’ch teulu cefnogol, ffrindiau, eich meddyg teulu, neu un o’r cysylltiadau eraill a awgrymir isod ar gyfer cymorth:

Cymorth Llesiant Amaeth Powys

Gwybodaeth a chymorth ar gyfer y gymuned ffermio ym Mhowys a ddarperir gan nifer o sefydliadau. Mae Rhwydwaith Cymorth Llesiant Amaeth Powys yn darparu taflenni gwybodaeth sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, gyda manylion cyswllt. Mwy fan hyn.

Ffôn: 01597 822191
Ebost: info@pavo.org.uk

Ymweld â’r Wefan

DAN 24/7

Man cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau cael gwybodaeth neu gymorth mewn perthynas â chyffuriau ac alcohol.

Ffôn: 0808 808 2234

Y Samariaid

Ffôn: 116 123 (am ddim) unrhyw bryd o’r dydd neu’r nos
Ebost: jo@samaritans.org

Ymweld â’r Wefan