John Lilley (gwirfoddolwr CCP), Owen Griffkin (cyn Swyddog Cyfranogiad, PAVO) & Rhydian Parry (gwirfoddolwr CCP) tu allan i Ward Felindre, Ysbyty Bronllys.

 

Prosiect a hwylusir gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yw Cyngor Cleifion Powys; a’i nod yw cynrychioli llais cleifion, sydd ar hyn o bryd yn Uned Felindre, Ysbyty Bronllys, Powys, sy’n cael cynnig gwasanaethau iechyd meddwl aciwt fel cleifion mewnol.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda chleifion yn unig, sy’n rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty. Wedyn caiff y sylwadau hyn eu trosglwyddo’n ddi-enw at staff sy’n rheoli’r ward a’r ysbyty, ynghyd ag uwch staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), er mwyn cael hyd i atebion.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymweliadau ward yn Ysbyty Bronllys yn ne Powys, ac wedi creu cysylltiadau gyda Chanolfan Redwood (ychydig dros y ffin yn yr Amwythig) a Thy Phoenix (uned i ddynion yn Y Trallwng) yng ngogledd y Sir, ac yn Ward F, Ysbyty Castell Nedd/Port Talbot ar gyfer trigolion de Powys. Nod y prosiect yw sicrhau cysylltiadau agosach gyda Chleifion Powys yn y wardiau ychwanegol hyn, yn sgil trafodaethau gyda BIAP. Nid yw Cyngor Cleifion Powys yn delio’n uniongyrchol gyda phroblemau arbenigol neu unigol, ond mae’n gweithio yn hytrach trwy atgyfeiriadau at wasanaethau eiriolaeth i sicrhau fod cleifion yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn darparu cyfeiriad a chymorth i Gyngor Cleifion Powys drwy:

  • oruchwylio trefniadau ar gyfer ymweld â wardiau.
  • Cydlynu adborth i staff yr ysbyty, uwch swyddogion rheoli Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a sicrhau y tynnir sylw at brif broblemau gyda’r pwyslais ar newid polisïau a/neu brosesau nad ydynt yn cefnogi adferiad cleifion.
  • Darparu cymorth a hwyluso gyda gwirfoddolwyr y prosiect, sy’n rhan o’r tîm.
  • Sicrhau y caiff adborth a chynnydd ei adrodd yn ôl i bobl ym Mhowys sydd â diddordeb yn y prosiect, ynghyd ag i grwpiau lleol sy’n rhan o rwydweithiau cyfranogiad iechyd meddwl.

Cysylltu â ni

Hoffech chi glywed rhagor am waith Cyngor Cleifion Powys?  Hoffech inni ychwanegu eich enw i’r rhestr bostio? Croeso ichi gysylltu a’r Swyddog Cyfranogiad – mentalhealth@pavo.org.uk neu 01597 822191.

Darllen erthyglau a blogiau am y Cyngor Cleifion

Life on the ward: the patient’s voice – Rhydian Parry yn ysgrifennu am ei brofiad fel gwirfoddolwr gyda’r Cyngor Cleifion.

Smoking and snacking? Saving lives or life-saving? – Freda sy’n ysgrifennu am broblemau a godwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor Cleifion.

Bronllys Grand Opening – Wellness and Recovery Learning Centre – dysu mwy am yr adnodd hwn ar gyfer cleifion ar Ward  Felindre yn Ysbyty Bronllys.