Mae gan lawer ohonom ddiddordeb mewn iechyd meddwl oherwydd rhesymau amrywiol. I rai pobl mae’r diddordeb yn deillio o brofiad bywyd, personol. Hwyrach inni ddioddef o drallod meddwl ein hunain, neu hwyrach ein bod yn agos at rywun arall sydd wedi ei ddioddef. Hwyrach ein bod wedi defnyddio neu yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd, neu hwyrach ein bod yn agos at rywun sydd wedi neu sydd yn eu defnyddio. Mae llawer ohonom am gyfrannu a rhannu ein syniadau, sgiliau, gwybodaeth, profiad ac arbenigedd, yn y gobaith y gallwn wneud pethau’n well.
Yma, gallwch weld pa gyfleoedd sydd ar gael ichi ddefnyddio eich profiad a lleisio eich barn. Os gwelwch gyfle sydd o ddiddordeb ichi, ond nid ydych yn siwr am fod yn rhan ohono, neu os oes angen rhyw gymorth neu hyfforddiant, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, croeso ichi gysylltu â ni, a gwnawn ein gorau i helpu. Os nad ydych yn gweld cyfle sydd o ddiddoreb ichi, ond mae gennych syniad ynghylch sut y byddech yn hoffi cyfrannu, eto, croeso ichi gysylltu â ni.
Gallwch ebostio mentalhealth@pavo.org.uk neu ffonio’r tîm ar 01597 822191.
Recriwtio Aelodau Gofalwyr Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys
Ydych chi’n ofalwr di-dâl angerddol?
Ydych chi am wneud gwahaniaeth a chwarae rhan allweddol wrth helpu i wneud penderfyniadau am Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Powys?
Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol lleol (Powys) a / neu a ydych chi / ydych chi’n gofalu am rywun sydd wedi bod angen gwasanaethau?
Os felly, efallai mai dyma’r cyfle i chi.
Dilynwch y ddolen yma am fwy o wybodaeth.
Cefnogi Ein Cyn-filwyr: Ymgynghoriad
Ymgynghoriad yn ceisio tystiolaeth ar anghenion cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Daw’r ymgynghoriad hwn i ben yn
5pm ar 4 Ionawr 2024
Mwy YMA.
Ymgynghoriad: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael ag anweddu ieuenctid
Ymgynghoriad ar y camau arfaethedig y bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn eu cymryd i fynd i’r afael ag ysmygu ac anweddu gan bobl ifanc.
Daw’r ymgynghoriad hwn i ben yn
11:59pm ar 6 Rhagfyr 2023
Mwy YMA.
Dweud eich dweud am eich Gwasanaeth Tân chi
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn eich gwahodd i rannu eich barn ar ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 Drafft.
Mae ein Cynllun Rheoli Risgiau Cymunedol yn dangos sut rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r risgiau, y bygythiadau a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau a sut rydym yn bwriadu eu hwynebu a’u lleihau, gan sicrhau bod ein hasedau a’n hadnoddau yn cael eu defnyddio’n llwyddiannus, er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mwy YMA.
Dweud eich dweud ar gyfleoedd dydd
Mae ymarfer ymgysylltu ledled y sir ynghylch y cyfleoedd dydd sydd ar gael ar draws Powys wedi dechrau, yn ôl y cyngor sir.
Ar hyn o bryd mae cyfleoedd dydd amrywiol ar gael yn y sir. Yn eu plith mae:
- Canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu.
- Sefydliadau annibynnol sy’n darparu gweithgareddau ar gyfer oedolion gydag anghenion gofal a chymorth penodol, megis caffis Dementia, grwpiau chwaraeon Integredig, a sesiynau lles.
- Gweithgareddau sydd ar agor i bawb lle gall pobl fynd gyda neu heb gymorth.
Am ragor o fanylion ac i gyfrannu at yr ymarfer ymgysylltu ar-lein yma, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/adolygiad-cyfleoedd-dydd
Mae copïau caled o’r arolwg ar gael i’w casglu o’ch llyfrgell leol, ac ar ôl ei lenwi, gellir ei roi i aelod o staff mewn un o Lyfrgelloedd Powys; fel arall, gellir ei sganio a’i ebostio yn ôl i: haveyoursay@powys.gov.uk.
Y dyddiad olaf i dderbyn ymatebion yw dydd Llun 11 Rhagfyr 2023.
Os byddai’n well gennych gofnodi eich sylwadau ar y cyfleoedd dydd wyneb yn wyneb, byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar hyd a lled y sir yn ystod mis Tachwedd 2023. Mwy YMA.
Astudiaeth ymchwil caethiwed i gamblo cyn-filwyr - mae gwirfoddolwyr eisiau
Mae’r elusen cyn-filwyr Change Step yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe ar astudiaeth 3 blynedd sy’n ymchwilio i gaethiwed i gamblo a’r niwed sy’n deillio o’r dibyniaeth honno. Ar hyn o bryd maent yn recriwtio cyn-filwyr ar gyfer astudiaeth wirfoddol.
Nid oes rhaid iddo fod yn “gaethiwed” llawn, byddai unrhyw un sy’n betio, neu sydd wedi gwneud yn y gorffennol, yn gymwys, maen nhw’n hapus i gwrdd â chyn-filwyr ac esbonio’r prosiect.
Bydd holl fanylion yr unigolion sy’n dymuno cymryd rhan yn ddienw, a gall y rhai sy’n cymryd rhan, os dymunant, dynnu allan ar unrhyw adeg yn unol â chod moeseg Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Manylion cyswllt y prosiect ask@change-step.co.uk
Comisiwn Bevan: Sgwrs gyda'r Cyhoedd
Rydym eisiau cynnal sgwrs genedlaethol er mwyn cynnwys y cyhoedd yn y gwaith o siapio’r profiad a gaiff pob un ohonom o wasanaethau iechyd a gofal yn ystod y blynyddoedd nesaf. Diben yr arolwg yw helpu i lywio syniadau, ymarfer a chyfraniad Comisiwn Bevan mewn perthynas â datblygiadau yn y maes hwn.
Arolwg yma.
Arolwg Profiadau Pobl Hŷn o Feddygfeydd
Mae mynediad pobl hŷn at wasanaethau meddygon teulu yn broblem ers tro byd. Yn 2018, lluniodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yr adroddiad, Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru: Safbwynt Pobl Hŷn, gyda’r bwriad o wella’r mynediad hwn.
I lawer o bobl hŷn, roedd pandemig Covid-19 yn ei gwneud hi’n anoddach iddynt gael mynediad at wasanaethau meddygon teulu – yn enwedig y rhai sy’n byw gyda dementia a’r rhai a oedd wedi’u hynysu a heb neb wrth law i’w helpu. Cafodd y broses o newid i wasanaethau ar-lein a dros y ffôn ei chyflymu gan y pandemig. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol i rai pobl hŷn, ond mae wedi creu rhwystrau i eraill, yn enwedig i’r rhai nad ydynt ar-lein. Er enghraifft, mae nifer o bobl hŷn wedi dweud wrth y Comisiynydd nad ydynt wedi gallu cymryd rhan mewn apwyntiadau ar-lein / galwadau fideo gyda’u meddyg teulu ac nad ydynt wedi gallu trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb.
Mae’r pwysau sydd ar y GIG hefyd yn effeithio ar fynediad pobl at wasanaethau iechyd. Mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o’r bobl hŷn y mae’r Comisiynydd a’i thîm wedi cwrdd â nhw ac wedi siarad â nhw ledled Cymru wedi’i brofi wrth geisio cael mynediad at y GIG.
Mae’r Comisiynydd eisiau gwybod sut brofiad rydych chi wedi’i gael wrth gael mynediad at feddygfeydd yn ystod y misoedd diwethaf, ac os ydych chi wedi wynebu unrhyw broblemau. Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, mae’r arolwg hwn yn addas i chi. Os oes rhywun dan 60 oed yn llenwi’r arolwg ar eich rhan, bydd angen iddynt gynnwys eich gwybodaeth chi, nid eu gwybodaeth nhw.
Os hoffech chi roi rhagor o fanylion i ni am unrhyw rai o’ch profiadau, defnyddiwch y blwch testun ar ddiwedd yr arolwg.
Bydd yr holl atebion rydych chi’n eu rhoi yn ddienw, felly ni fydd posib eich adnabod chi’n bersonol oddi wrth yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi.
Gallwch chi rannu eich profiadau yma – dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd – neu, os byddai’n well gennych chi, gallwch ein ffonio ni ar 03442 640 670, anfon e-bost i gofyn@comisiynyddph.cymru, neu ysgrifennu atom ni:
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Diolch yn fawr am eich help!
Os oes angen cymorth arnoch chi gydag unrhyw un o’r materion rydych chi wedi’u profi, cofiwch y gallwch chi gysylltu â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd ar 03442 640 670 neu drwy e-bost yn gofyn@comisiynyddph.cymru.
Beth mae eiriolaeth yn ei olygu i chi?
Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Eiriolaeth eleni (6 -10 Tachwedd 2023) thema’r sefydliad Eiriolaeth QPM yw Popeth Am Eiriolaeth. “Byddwn yn mynd yn ôl at y pethau sylfaenol, yn archwilio beth yw eiriolaeth, beth nad yw eiriolaeth, beth mae eiriolwyr yn ei wneud a beth nad ydynt yn ei wneud yn ogystal â chwalu rhai mythau am eiriolaeth.
Rydyn ni eisiau rhannu barn a syniadau pobl am:
Beth yw eiriolaeth
Beth mae eiriolwyr yn ei wneud
Yr hyn nad yw eiriolwyr yn ei wneud
Sut mae eiriolaeth yn helpu
Hoffem wybod mwy am yr hyn y mae eiriolaeth yn ei olygu i chi.”
Dolen i arolwg byr am eiriolaeth YMA.
Ydych chi eisiau helpu datblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhowys?
Cofrestrwch yn Bit.ly/YourVoiceProject neu e-bost: PowysMentalHealthLD@wales.nhs.uk
Cyfleoedd: Cynrychiolydd Gofalwyr Unigol ar Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Rhanbarthol
Mae Partneriaeth a Datblygu Iechyd Meddwl Powys yn recriwtio Cynrychiolydd newydd ar gyfer Gofalwyr Iechyd Meddwl i helpu siapio gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhowys ar lefel strategol.
Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am oruchwylio cyflenwi Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru ym Mhowys ac mae’n cynnwys yr holl sefydliadau sy’n rhan o hyn: (e.e. Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Heddlu Dyfed-Powys). Fel aelod cydradd o’r bwrdd partneriaeth, byddwch yn helpu sicrhau y caiff lleisiau defnyddwyr y gwasanaethau a gofalwyr eu clywed yn ystod y broses o wneud penderfyniadau am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y sir.
Cynhelir 4 cyfarfod o’r bartneriaeth yn flynyddol, a bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn is-grwpiau eraill sy’n ystyried meysydd gwasanaeth penodol. Byddech hefyd yn casglu sylwadau a phrofiadau gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau eraill mewn cyfarfodydd, er mwyn cynrychioli barn pobl ledled y sir. PAVO fydd yn cefnogi ac yn hwyluso’r cynrychiolydd.
Os hoffech chi wneud cais, cysylltwch â Thîm Iechyd Meddwl PAVO drwy’r ebost mentalhealth@pavo.org.uk erbyn y 30ain o Fedi.
Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus
Dweud eich dweud a helpu i lunio polisi iechyd cyhoeddus Cymru!
Amser i Siarad Iechyd y Cyhoedd yw panel cynrychioliadol cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru o 2,500 o drigolion ledled Cymru. Drwy rannu eu profiadau a’u safbwyntiau bob mis, bydd aelodau’r panel yn helpu i lunio polisi iechyd y cyhoedd a gwneud penderfyniadau, ac yn cyfrannu at wella iechyd a llesiant ledled Cymru.
Roedd aelodau’r panel eisiau
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am drigolion Cymru 16+ oed i ymuno â’r Panel!
Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a gesglir gan y Panel yn adlewyrchu poblogaeth Cymru, mae angen ystod amrywiol o drigolion o bob rhanbarth o Gymru i gymryd rhan.
Adolygiad Hamdden Powys
Rydym eisiau clywed gennych chi
Astudiaeth newydd yn archwilio profiadau cleientiaid Du Affricanaidd o CBT
Mae Rusha Mohamed yn fyfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Swydd Hertford ac yn Therapydd Ymddygiad Gwybyddol achrededig.
Ar hyn o bryd mae Rusha yn cynnal darn o ymchwil sy’n archwilio profiadau cleientiaid Du Affricanaidd o Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT). Nod yr astudiaeth yw cael gwell dealltwriaeth o pam eu bod yn rhoi’r gorau i driniaeth CBT yn gynt na’r disgwyl ar gyfradd uwch na phobl o gefndiroedd ethnig eraill. Gobeithir y bydd hyn yn rhoi cipolwg pellach i ni ar sut i wella ein gwasanaethau ar gyfer y ddemograffeg hon.
Mae Rusha yn gobeithio recriwtio cyfranogwyr (sy’n bodloni’r meini prawf cynhwysiant) i gyfweliad yn yr astudiaeth hon. Cysylltwch â hi i drafod unrhyw ran o hyn ymhellach ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Ffôn: 07502 277 613
E-bost: rm21acl.herts.ac.uk
Twitter: RushaMohamed121
Fwy YMA.
Rhaglen Trawsnewid Ysbytai GIG Amwythig a Telford
Mae Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford yn gwella’r ffordd y mae’n darparu gofal ysbyty ar draws Swydd Amwythig, Telford a Wrekin a Chanolbarth Cymru ac eisiau clywed gennych.
Mae 4 grŵp ffocws yr hoffai’r Ymddiriedolaeth gael eich mewnbwn iddynt:
1. Grŵp Ffocws Gofal Brys ac Argyfwng a Meddygaeth – 7 cyfarfod chwarterol rhwng 25 Mai 2023 a 30 Ionawr 2025.
2. Grŵp Ffocws Gwasanaethau Cymorth Clinigol – 4 – Cyfarfod bob chwe mis rhwng Medi 2023 a Mawrth 2025.
3. Grŵp Ffocws Merched a Phlant – 8 cyfarfod chwarterol rhwng Mehefin 2023 a Mawrth 2025.
4. Grŵp Ffocws Gofal wedi’i Gynllunio – 9 cyfarfod chwarterol – Mawrth 2023 i Fawrth 2025.
Gall yr Ymddiriedolaeth hefyd ddarparu siaradwr i drafod y Trawsnewid Ysbytai pe bai eich grŵp neu sefydliad yn dymuno manteisio arno eu hunain o’r cynnig hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Michael, y Swyddog Ymgysylltu, drwy anfon e-bost at Michael.crawshaw@nhs.net
Mae gwybodaeth hefyd ar wefan yr Ymddiriedolaeth YMA.
Pobl 60+ Yn Eisiau Fel Cynrychiolwyr Ar Fforwm Pobl Hŷn Powys
Os hoffech chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau a ddefnyddir gan bobl 60+ oed ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth, neu e-bostiwch Andrew Davies yn andrew.davies@pavo.org.uk
Yn eisiau - Aelod o Bwyllgor Polisi, Partneriaethau ac Ymchwil y Samariaid, gyda Phrofiad Bywyd
Digwyddiadau cymunedol Ysbyty'r Amwythig a Telford
Mae angen cynrychiolwyr ar gyfer Fforwm Partneriaeth Pobl Hyn - Powys
Mae Hafal yn gofyn - beth sydd angen ei newid mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru?
Saesneg: https://surveymonkey.co.uk/r/R7RRSWY