Ar hyn o bryd mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys yn cael ei gyllido gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys i ddarparu:

  • Gwell gwybodaeth i bawb mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys.
  • Cymorth i gynrychiolwyr ar ran dinasyddion wrth iddynt ymuno â phenderfyniadau’r bwrdd strategol.
  • Rhwydweithio a rhannu arfer orau ymhlith sefydliadau ym maes iechyd meddwl a llesiant.

Yr enwau ar y tri maes gwaith yma yw: Gwybodaeth, Cyfranogiad ac Ymgysylltiad

Rydym yn gweithio’n agos gyda thîm Gofal ac Iechyd PAVO ac yn canolbwyntio ar:

  1. Rhedeg y Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl.
  2. Datblygu safonau a chyfleoedd cyfranogi trwy weithio gyda Chynrychiolwyr Unigol sy’n aelodau o fyrddau partneriaeth rhanbarthol a chenedlaetho, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â chyflenwi gwasanaethau iechyd meddwl.

Gallwch gysylltu â PGwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Powys  ar  01597 822191 opsiwn 4 neu afon ebost atom ar: mentalhealth@pavo.org.uk

Ein hegwyddorion craidd
  • Hyrwyddo dull o weithio a seilir ar yr unigolyn cyfan, tuag at iechyd meddwl a llesiant.
  • Sicrhau fod profiadau defnyddwyr gwasanaeth yn rhan allweddol o bob trafodaeth am gynlluniau’r dyfodol.
  • Cryfhau’r bartneriaeth rhwng y sector gwirfoddol a sefydliadau statudol.
  • Sicrhau fod gwybodaeth ym maes iechyd meddwl yn hygyrch i bawb, er mwyn i bobl wneud dewisiadau deallus.
Ein gwreiddiau
Strategaeth Afiechyd Meddwl Cymru Gyfan (1989) a hwylusodd cyflogi 10 o Swyddogion Datblygu Iechyd Meddwl ledled y wlad. Dros y blynyddoedd, mae’r swyddogaeth hon wedi datblygu ym Mhowys yn Dîm Iechyd Meddwl PAVO sy’n rhan o  Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys  sy’n cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys.
Beth yw ein nodau?

Ein prif nod yw gwella a hyrwyddo’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ym Mhowys sydd wedi cael profiad o drallod meddyliol, a’r unigolyn agos atynt. Rydym yn awyddus i sicrhau fod Powys yn lle sy’n cynnig cyfle i bobl fyw bywydau iachus a gwerth chweil trwy ymdrechu i sicrhau:

  • ein bod yn rheoli ac yn cyflenwi’r gwasanaethau ym Mhowys, ar sail egwyddorion adferiad ac arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • bod cyfleoedd newydd ar gael i weithwyr proffesiynol, ac i bobl sydd wedi cael profiadau bywyd, i gydweithio i wella’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael sy’n dioddef o drallod meddyliol.
  • bod mwy o rym a chyfrifoldeb yn nwylo unigolion.
  • y caiff gwerthoedd profiadau bywyd o adfer a ffynnu yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, a’u bod yn eiddo i’r unigolyn.
  • fod pobl sydd â phrofiad o drallod meddyliol yn gallu elwa o fwy o gyfleoedd i wneud pethau i helpu eu hunain ac eraill yn yr ardal leol.
  • ein bod yn parhau i ddysgu gyda’n gilydd trwy rannu a thrafod ein syniadau, ein profiadau personol, yr hyn sydd yn arfer dda yn ein barn ni (newydd a hen) a’n teithiau unigol.
  • fod pobl sy’n byw ac yn gweithio ym Mhowys yn gwybod ble i gael hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Yr hyn a wnawn

Ni yw Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd Meddwl Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys  (PAVO).

  • Cofiwch gysylltu â Llinell Ymholiadau Iechyd Meddwl Powys. Rydym ar gael i geisio ateb eich cwestiynau am iechyd meddwl a llesiant. Gweler isod rhai enghreifftiau o’r math o wybodaeth y gallwn ei darparu:
    • gwasanaethau iechyd meddwl yn eich ardal chi;
    • digwyddiadau, hyfforddiant a chyrsiau;
    • cyfleoedd a chymorth y sector gwirfoddol; a
    • newyddion lleol a chenedlaethol ym maes iechyd meddwl. Enghreiffitau yn unig yw’r rhain; gwnawn ein gorau i gael hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ac os nad ydym yn gwybod, gwnawn ein gorau glas i gael hyd iddi ar eich rhan chi.
  • Rhannwch eich newyddion gyda ni! Hoffech chi rannu rhywbeth gyda phobl eraill? Cysylltwch â ni felly. Gweler isod rhai o’r ffyrdd y gallwn eich helpu i hyrwyddo gwasanaethau, cymorth a chyfleoedd:
    • Ein calendr digwyddiadau a thudalennau newyddion, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd? Hoffech chi ychwanegu rhywbeth – cysylltwch â ni.
    • E-fwletin bob yn ail fis gyda’r newyddion a digwyddiadau diweddaraf ym maes iechyd meddwl, trwy ebost.  Mae’n cael ei ddosbarthu i dros 500 o bobl ledled Powys a thu hwnt. Felly os oes gennych fanylion rhywbeth yr hoffech inni ei hyrwyddo, neu os hoffech inni eich ychwanegu at y rhestr bostio, gadewch inni wybod.
  • Cymerwch gip ar y wefan! Ceir mynediad at wybodaeth ar ein gwefan ar unrhyw adeg ar powysmentalhealth.org.uk, felly cymerwch gip. Os na fedrwch chi gael hyd i’r hyn sydd ei eisiau arnoch, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau, cysylltwch â ni.
  • Ymunwch â’r ddadl! Cymerwch gip ar ein blog.
  • Beth am gyfrannu! Eisiau gwybod mwy ynghylch sut y gallwch helpu siapio gwasanaethau ym Mhowys a Chymru? Cysylltwch ag Owen neu ceir mwy o wybdoaeth yma.
  • Ddim yn siwr ynghylch yr hyn rydych yn chwilio amdano? Neu ba wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael? Croeso ichi gysylltu â ni a gwnawn ein gorau i helpu.
  • Cysylltu â ni! Ffoniwch ni ar 01597 822191 neu anfonwch ebost at mentalhealth@pavo.org.uk. Rydym ar gael Dydd Llun – Gwener 9 am – 5 pm.

Gallwch ddarllen rhai o’r cwestiynau cyffredin y mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth yn eu derbyn yn rheolaidd fan hyn.

Rhoi adborth

Gallwch roi adborth ar y wefan hon, ein gwaith a’n gweithgareddau – fan hyn

Neu gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol gyda’ch adborth, awgrymiadau a syniadau ar 01597 822191 neu drwy ebostio mentalhealth@pavo.org.uk.

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys  a Chyngor Sir Powys  sy’n ariannu gwaith Tîm Iechyd Meddwl PAVO (rhan o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys). Nid yw ein cyllidwyr o reidrwydd yn ategu cynnwys y wefan hon nae blog Iechyd Meddwl Powys.