Helô, Sarah Dale yw f’enw i.

Mae gen i Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD), Anorecsia, iselder a phryder, sy’n arwain at niweidio fy hun. Fel defnyddiwr gwasanaeth, treuliais nifer o flynyddoedd yn ceisio cael diagnosis. Ers derbyn diagnosis rwyf wedi llwyddo i gael hyd i’r driniaeth fwyaf effeithiol ac wedi dysgu llawer mwy am fy niagnosis a fi fy hun, sydd wedi arwain at welliant yn ansawdd fy mywyd. Fwyf yn ofalwr ar gyfer aelodau fy nheulu sydd ag anghenion gwahanol.

Fel cynrychiolydd ar ran defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl Powys, rwyf yn mynd i gyfarfodydd a byrddau amrywiol, ar lefel leol a rhanbarthol, gyda’r nod o gynrychioli safbwynt defnyddwyr gwasanaeth a Phowys. Rwyf yn cyfleu unrhyw broblemau neu dueddiadau cyfredol, ac yn helpu siapio gwasanaethau neu lwybrau triniaeth newydd er mwyn sicrhau eu bod yn ‘barod ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth’.

Des i’n gynrychiolydd am nifer o resymau. Nid wyf eisiau i bobl eraill gael yr un profiadau â mi. Rwyf yn awyddus i helpu eraill i ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol. Ac rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth am y problemau sy’n bwysig imi, a’r problemau y mae trigolion Powys yn dod ar eu traws wrth geisio cael hyd i gymorth a chefnogaeth o ran problemau iechyd meddwl a chymdeithasol. Credaf yn gryf bod pob un ohonom yn gyfrifol am wneud yr hyn y gallwn i newid a gwella’r gwasanaethau iechyd meddwl sy’n cael eu defnyddio gan bawb.

Yn ystod fy nghyfnod fel cynrychiolydd rwyf wedi pwyso am fwy o gynrychiolaeth gan y sawl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Hefyd mwy o ffyrdd i’r cyhoedd allu roi adborth ar broblemau neu ganmoliaeth o ran eu profiadau personol nhw er mwyn i gynrychiolwyr cynrychioli’r gymuned yn well, megis ffurflenni adborth ar-lein (gan gynnwys dolen) a dyddiau cwrdd â’ch cynrychiolwyr. Hefyd rwyf wedi creu ac wedi datblygu sesiynau ymwybyddiaeth ar thema hunan-niweidio dan arweiniad defnyddwyr gwasanaeth. Datblygwyd y rhain yn wreiddiol ar gyfer Unedau Mân Anafiadau a staff iechyd meddwl. Mae sefydliadau iechyd meddwl gwirfoddol a staff gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr maeth hefyd wedi mynychu’r sesiynau. Mae pawb sy’n dod i’r sesiynau’n derbyn rhuban oren – felly gwyliwch allan amdanynt. Mae fy ngwaith ym maes hunan-niwed wedi arwain at ddod yn aelod o Fwrdd Atal Hunanladdiad a Hunan-Niwed Canolbarth a Gorllewin Cymru, prosiect ymchwil ledled Cymru. Pwy a ŵyr beth ddaw nesaf.

Fel cynrychiolydd mae gen i fwy o werthfawrogiad ar gyfer ein staff. Maen nhw’n teimlo’r un mor rhwystredig â ni gyda’r gwasanaeth ar adegau. Fel defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, teimlaf fod angen inni atgoffa ein hunain taw pobl yw ein staff hefyd, ac maent yn gwneud eu gorau glas gyda’r adnoddau sydd ar gael iddynt.

Anfonwch ebost at Sarah ar sarah.dale@mhreps.org.uk

Darllen erthygl Sarah ar Anhwylder Personoliaeth Ffiniol, a ysgrifennwyd ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth BPD ym mis Mai 2021.