Gwasanaeth taro heibio ar gyfer unrhyw un sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl - o gyflyrau iselder cyffredinol i bryder, anhwylderau gorfodaeth obsesiynol i gaethiwed. Mae’n rhedeg ar ddydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1.00 pm a 4.00 pm. Mae lolfa fach gyfforddus a chegin lle ceir rhyddid i siarad yn hollol agored am bethau sy’n bwysig ichi. Mae cerddoriaeth swynol yn chwarae, mae paned a bisgedi ar gael bob amser, ac ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael yn y gegin mae celf a cherddoriaeth.