Gwirfoddoli Iechyd Meddwl a Chydgynhyrchu

Yn PAVO rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn Cydgynhyrchu Iechyd Meddwl gyda sefydliadau statudol a thrydydd sector lleol a chenedlaethol.

Mae cydgynhyrchu iechyd meddwl yn ffordd o weithio lle mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio, eu datblygu a’u darparu’n gyfartal gan ddefnyddwyr gwasanaeth, aelodau o’u teulu a gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl. Mae’n symudiad i ffwrdd o’r model traddodiadol lle mae gweithwyr proffesiynol yn dylunio ac yn darparu gwasanaethau i dderbynwyr goddefol.

Yn PAVO mae gennym dair prif ffordd y gall rhywun sydd â phrofiad byw o wasanaeth iechyd meddwl gymryd rhan.