Mae’r Gwasanaeth Therapiwtig ac Ymlyniad Cadarnhaol i Bobl Ifanc Powys yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc ar draws sir Powys. Darparwn gefnogaeth therapiwtig sy’n ystyriol o drawma i bobl ifanc a theuluoedd sy’n profi anawsterau gyda phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma.