Yn cefnogi pobl yn y gymuned sy’n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl a thrallod. Estynnir croeso i unrhyw un i’n sesiynau ‘drws agored’ neu drwy apwyntiad. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau, cyrsiau a gweithdai iachus, gyda’r nod o gefnogi a grymuso pobl sy’n mynd drwy drallod meddyliol i symud tuag at iachâd. Mae gwasanaethau estyn allan ar gael yn Nhalgarth, Y Gelli Gandryll a Chrughywel.