Gwasanaeth ledled Powys yw Age Cymru ym Mhowys ar gyfer pobl 60+ oed sydd angen help neu gymorth. Gall Age Cymru drefnu ymweld â chi yn eich cartref eich hun, yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal/preswyl. Gwasanaeth cyfrinachol, a rhad ac am ddim yw hwn.