Elusen leol yw Mind Canol a Gogledd Powys sy’n rhedeg gwasanaethau yn Sir Faesyfed, Gogledd Sir Frycheiniog a Sir Drefaldwyn, sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n dioddef o drallod meddwl efallai, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’n rhedeg gwasanaethau estyn allan yn Llanfair-ym-Muallt, Tref-y-clawdd, Rhaeadr Gwy a Llanandras. Mae’n cynnig cwnsela, hunangymorth, gweithgareddau, gwasanaethau iechyd a llesiant.