Elusen iechyd meddwl dan arweiniad aelodau i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl, unigolion sy’n ynysig neu’n cael eu heithrio o safbwynt cymdeithasol, neu’r sawl sydd yn syml iawn am wneud ffrindiau newydd neu fagu sgiliau newydd. Mae’r Gymdeithas yn cynnig dull o weithio a seilir ar yr unigolyn o ran adfer. Darperir gweithgareddau i ymateb i geisiadau gan yr aelodau, a gall y rhain amrywio o sesiynau blasu mewn Sgiliau Bywyd, megis Rheoli Dicter, Meithrin Hyder a Sgiliau Cyfathrebu i ddosbarthiadau mwy artistig megis dosbarthiadau celf, crochenwaith, crefftau a Gwaith Argraffu Drypoint.