- This event has passed.
Dulliau Cyfathrebu a Chysylltiad Cymdeithasol Dynion – Rhaglen pecyn cymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithio gartref neu weithio ar eich pen eich hun
Ym mis Mehefin, roedd Wythnos Iechyd Dynion yn canolbwyntio ar thema “Ochr yn ochr: Cysylltu dros Iechyd”. Roedd y thema yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad, cefnogaeth, wrth fynd i’r afael â materion iechyd dynion. Roedd yr wythnos yn annog dynion i gysylltu â’i gilydd, siarad am eu pryderon iechyd, a gofyn am gymorth pan fo angen.
Fel dilyniant i’r wythnos honno, byddwn ni’n cynnal sesiwn i ddynion â swyddi sy’n cynnwys gweithio gartref neu weithio ar eu pennau eu hunain yn rheolaidd.
Dulliau Cyfathrebu a Chysylltiad Cymdeithasol Dynion – Rhaglen pecyn cymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithio gartref neu weithio ar eich pen eich hun (cofrestrwch trwy Eventbrite )
Dydd Mawrth 5 Awst 09:30- 12:30 ar-lein ar Teams
Mae gweithio gartref neu weithio’n rheolaidd ar ei ben ei hun yn cynnig llawer o fanteision i bobl ond gall hefyd achosi unigrwydd, ynysu cymdeithasol ac anawsterau datgysylltu o’r gwaith. Gall y ffactorau hyn gyfrannu at fwy o bryder, straen, a hyd yn oed iselder. Byddwn ni’n cynnig y sesiwn hon i ddarparu ‘pecyn cymorth’ o dechnegau i chi sy’n canolbwyntio ar leihau straen a phryder, codi eich hwyliau a gwella eich gwytnwch, sgiliau ymdopi a llesiant.
Rydym hefyd yn gwybod y gall dulliau cyfathrebu a chysylltiad cymdeithasol dynion fod yn wahanol, yn enwedig wrth feddwl am lesiant. Bydd y gweithdy hwn hefyd yn trafod gwyddoniaeth cyfathrebu a dulliau cysylltiad cymdeithasol dynion ac yn edrych ar strategaethau sy’n effeithiol wrth wella effeithiolrwydd cyfathrebu a chysylltiad cymdeithasol. Mae’r gweithdy wedi’i gynllunio fel archwiliad ymarferol o sgiliau, gwybodaeth a strategaethau wedi’u teilwra’n benodol i ddynion.
Mae’r sesiwn hon ar gyfer dynion sy’n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n gweithio gartref neu’n sy’n gweithio ar eu pen eu hunain yn aml.