Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Gweminar: meddyliau ac ymddygiad hunanladdol yn ddiweddarach mewn bywyd

Medi 19 @ 10:00 am - 11:30 am

Fe’ch gwahoddir i weminar 1.5 awr am ddim a gynhelir gan Raglen Genedlaethol Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru.

Gweminar: meddyliau ac ymddygiad hunanladdol yn ddiweddarach mewn bywyd

 Dydd Gwener 19eg Medi 2025

 10:00 – 11:30 AM

 Ar-lein – Archebu lle trwy Eventbrite YMA

Siaradwyr: Yr Athro Trish Hafford-Letchfield, Prifysgol Strathclyde

Siwan Sutton, Iechyd y Cyhoedd BIPBC

Bydd y weminar hon yn cyflwyno gwybodaeth am:

  • Wella cydnabyddiaeth o feddyliau ac ymddygiad hunanladdol mewn pobl hŷn
  • Sut y gallwn wella’r ymateb a mynediad at gymorth yn seiliedig ar y dystiolaeth

a

  • Throsolwg o Adolygiad Cyflym gan Iechyd y Cyhoedd BIPBC – hunanladdiad a hunan-niweidio mewn oedolion hŷn: pa mor gyffredin y mae, ffactorau risg ac ymyriadau

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu hwn o fewn eich rhwydweithiau neu gyda chydweithwyr a allai fod â diddordeb.

Cyn y weminar neu ar ôl y digwyddiad, rydym yn awgrymu cwblhau ein e-fodiwl Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cyffredinol am ddim i gael dealltwriaeth sylfaenol o’r pwnc a’r cyd-destun yng Nghymru. Mae’r modiwl yn rhad ac am ddim ac ar gael yn agored ar ein hwb digidol: https://www.sshp.wales/cy/suicide-awareness-module/ neu, os ydych chi’n gweithio i’r GIG, mae ar gael trwy ESR “Ymwybyddiaeth am Hunanladdiad”.

Gallwch weld cynnwys o’n gweminarau blaenorol ar ein tudalen digwyddiadau a gweminarau ar yr SSHP Hub YMA

Details

  • Date: Medi 19
  • Time:
    10:00 am - 11:30 am