Loading Events

« All Events

Gweminar – Deall Hunan-niwed mewn Plant a Phobl ifanc: Tystiolaeth ac Ymatebion Effeithiol

Chwefror 24 @ 11:00 am - 12:00 pm

 Dydd Mawrth 24eg Chwefror 2026

 11:00 – 12:00 AM

 Ar-lein – Archebu lle trwy Eventbrite YMA

Sesiwn ymarferol a chraff yn canolbwyntio ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar dueddiadau, canllawiau, a safbwyntiau sy’n seiliedig ar brofiad bywyd ar hunan-niweidio ymhlith plant a phobl ifanc.

Bydd Dr Amanda Marchant o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil i Hunan-niweidio yn rhannu trosolwg o’r tueddiadau hunan-niweidio cyfredol yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddaw o waith ymchwil, gan helpu i amlygu’r heriau sy’n wynebu plant a phobl ifanc heddiw.

Dilynir hyn gan ddiweddariad byr ar ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, Ymateb i faterion hunan-niweidio a meddyliau hunanladdol ymhlith pobl ifanc’.

Bydd Si o Heads Above the Waves yn cloi’r sesiwn, gan dynnu’n uniongyrchol ar leisiau a dyfyniadau gan blant a phobl ifanc a bydd yn archwilio:

  • Yr hyn y mae pobl ifanc yn dymuno i oedolion ei ddeall am hunan-niweidio
  • Sut i ddechrau sgyrsiau cefnogol a thosturiol
  • Ymatebion defnyddiol o’u cymharu ag ymatebion di-fudd
  • Y fframwaith “Helpwyd / Clywyd / Daliwyd” ar gyfer ymateb i ofid
  • Cyfeirio at gymorth ac adnoddau pellach

Nod y weminar hon yw arfogi oedolion, boed yn weithwyr proffesiynol, gofalwyr, neu addysgwyr, â gwybodaeth ac offer ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i ddeall a chefnogi’n well bobl ifanc sy’n hunan-niweidio.

Gallwch weld cynnwys o’n gweminarau blaenorol ar ein tudalen digwyddiadau a gweminarau ar yr SSHP Hub YMA

Details

  • Date: Chwefror 24
  • Time:
    11:00 am - 12:00 pm