Gor 8, 2026

Mae Baromedr Cymru, yr arolwg chwarterol dwyieithog newydd ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, yn helpu mudiadau gwirfoddol a gwneuthurwyr penderfyniadau i ddatgloi mewnwelediadau o’r sector gwirfoddol. Mae’r don hon ar agor nawr rhwng 8 Gorffennaf a 5 Awst.  

Ochr yn ochr â’r cwestiynau rheolaidd sy’n olrhain tueddiadau ar draws y sector, mae Ton 4 yn archwilio’r rôl y mae mudiadau gwirfoddol yn ei chwarae ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r arolwg yn edrych ar sut mae sefydliadau’n gweithio gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, eu profiadau o gydweithio a darparu gwasanaethau, a sut mae’r sector gwirfoddol yn cyfrannu at gefnogi pobl a chymunedau.  

Bydd y canfyddiadau yn helpu i adeiladu darlun cliriach o brofiadau’r sector ac yn darparu tystiolaeth werthfawr i lywio polisi a’r broses o wneud penderfyniadau.  

Mae’r arolwg ar agor i bob mudiad gwirfoddol yng Nghymru. P’un a ydych chi’n grŵp cymunedol bach neu’n fudiad mawr — a ph’un a ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ai peidio — mae eich llais yn bwysig.   

 Pam cymryd rhan? 

Byddwch chi’n cael-  

  • Adroddiad Mewnwelediad wedi’i deilwra sy’n cymharu profiadau eich mudiad chi â’r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru 
  • Tystiolaeth i gefnogi cynllunio, gwneud penderfyniadau strategol a sgyrsiau ariannu 
  • Mynediad at ganfyddiadau ar gyfer y sector cyfan a gweminar am ddim sy’n archwilio’r hyn maen nhw’n ei olygu i fudiadau gwirfoddol 

Cymerwch ran yma: https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_6YeIYvNfBPDpc1M  

Cymerwch ran heddiw! Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau ac mae ar agor tan 5 Awst.