Tach 25, 2026

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn annog pobl leol i gymryd rhan yn ymgynghoriad Gwella Gyda’n Gilydd cyn iddo ddod i ben ar 10 Ionawr.
Mae’r ymgynghoriad yn cyflwyno cynigion ar gyfer newidiadau i wasanaethau iechyd ym Mhowys, ac mae eich barn yn bwysig wrth helpu i lunio darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ein cymunedau yn y dyfodol.
✅ Darllenwch am y cynigion
✅ Mynychwch un o’r sesiynau galw heibio neu ddigwyddiadau ar-lein sy’n weddill
✅ Rhannwch eich barn drwy gwblhau’r holiadur ymgynghori
P’un a ydych yn glaf, gofalwr, aelod o’r teulu, aelod o staff neu’n byw ym Mhowys, dyma’ch cyfle i ddysgu mwy am y cynigion a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Ewch i https://biap.gig.cymru/gwellagydangilydd i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, manylion y digwyddiadau sydd i ddod a’r ffyrdd y gallwch gymryd rhan.
🗓 Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 10 Ionawr, felly peidiwch â cholli’r cyfle i gymryd rhan.
Rhannwch y neges hon i helpu i ledaenu’r gair a sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y sgwrs am ddyfodol gwasanaethau iechyd ym Mhowys.