Hyd 24, 2022

Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth ym maes Camddefnyddio Sylweddau/Lleihau Niwed ar gyfer BIAP ac yn cydlynu gweithgarwch BIAP mewn perthynas â’r Strategaeth Atal Niwed Camddefnyddio Sylweddau a’r Cynllun Gweithredu. Bydd y swydd hon yn hanfodol wrth leihau niwed iechyd, cymdeithasol ac economaidd camddefnyddio sylweddau i unigolion a chymunedau ym Mhowys drwy helpu i gydlynu gwaith ar y cyd a mynd i’r afael â’r agenda lleihau niwed. Mae’r agenda hon wedi’i lleoli’n strategol gyda Bwrdd Cynllunio Ardal Powys ac yn gysylltiedig â’r Agenda Law yn Llaw ar gyfer Iechyd Meddwl.

Mwy o wybodaeth, disgrifiad swydd a manyleb person YMA.

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Sue Hughes, Rheolwr Partneriaeth Iechyd Meddwl, drwy e-bostio: susan.hughes75@wales.nhs.uk neu ffonio 01874 712 469.