Maw 14, 2024

Mae’r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Wedi’i ddatblygu gennym ni a Gofal Cymdeithasol Cymru, nod y cynllun yw datblygu sgiliau a chapasiti ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gynyddu cymorth i’r rhai mewn angen.

Ei nod yw gwella gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal â mynd i’r afael â heriau a phwysau ar wasanaethau i bobl ag anghenion iechyd meddwl difrifol.

Mae ein hadroddiad cynnydd un flynedd yn ddiweddarach nawr yn fyw:

Gweithrediad y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol