Ion 9, 2024

Ydych chi’n deall gwerth profiad byw? Ydych chi’n credu mewn cyd-gynhyrchu? Efallai mai chi yw’r person rydyn ni’n edrych amdano!

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Gwybodaeth, Ymgysylltu a Chyfranogiad PAVO i hwyluso a datblygu gweithgareddau cyfranogiad o fewn iechyd meddwl. Bydd y rôl yma’n cynnwys cefnogi’r Cyngor Cleifion yn Ysbyty Bronllys a recriwtio a chefnogi cynrychiolwyr gwirfoddol Arbenigwyr trwy Brofiad i amrywiol fyrddau cynllunio strategol a fforymau aml-asiantaeth ym Mhowys. Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o gyflwyno gweithgareddau cyfranogiad ac ymgysylltu, hwyluso cydgynhyrchu ac sy’n deall gwerth profiad byw wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Os ydych chi’n angerddol am gefnogi’r rhai na chlywir yn aml i ddod o hyd i’w llais, yna rydym am glywed gennych.

Mae’r rôl hon yn gofyn am DBS uwch.

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sharon Healey, Pennaeth Iechyd, Llesiant a Phartneriaethau yn PAVO ar 01957 822191.

I wneud cais, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd, ynghyd â Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i chwblhau i recruitment(at)pavo.org.uk erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad Cau: 5.00pm, dydd Iau 25 Ionawr 2024

Cyfweliadau i’w cynnal: Dydd Gwener 2 Chwefror 2024

Disgrifiad Swydd

Ffurflen gais

Ffurflen Monitro Amrywiaeth

Gwybodaeth cefndirol

Datganiad Preifatrwydd yr Ymgeisydd

Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Polisi Diogelu