Ebr 20, 2023

Ceisiodd yr adolygiad hwn asesu i ba raddau y gellir priodoli canlyniadau a arsylwyd i’r camau gweithredu a gafodd eu datblygu a’u gweithredu o ganlyniad i’r ddwy strategaeth.

Cynhaliwyd yr adolygiad rhwng mis Hydref 2021 a mis Awst 2022. Defnyddiwyd dull seiliedig ar theori i gynnal yr adolygiad, o’r enw Dadansoddiad o Gyfraniad.

Ar ôl cwblhau’r Damcaniaethau Newid, cynhaliwyd grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl â phersonél strategol a gweithredol o sefydliadau iechyd meddwl a sefydliadau atal hunanladdiad a hunan-niwed ledled Cymru, yn ogystal â’r bobl hynny sydd â phrofiad o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl a llesiant. Gan ddefnyddio’r Damcaniaethau Newid fel sylfaen, defnyddiwyd y dulliau hyn i archwilio profiadau pobl o ddarparu a derbyn gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ledled Cymru, gan ei gwneud yn bosibl archwilio’r cynnydd tuag at gyflawni canlyniadau’r strategaethau a datblygu stori’r cyfraniad.

Lawrlwythwch yr adroddiadau adolygu ar y dudalen we hon gan Lywodraeth Cymru.this Welsh Government webpage.