Hyd 10, 2022

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn chwilio am 2 berson i gyfrannu at y Fforwm Hunanladdiad a Hunan-niwed. Bydd y gwaith hwn yn edrych ar dri maes ym Mhowys: hunanladdiad, hunan-niwed ac ôl-ymyrraeth a sut y bydd Powys yn gweithredu strategaeth hunanladdiad a hunan-niwed ‘Siarad â Fi 2’.

Byddent yn hoffi clywed gan rywun sydd â phrofiad o hunan-niwed, a rhywun sydd â phrofiad o deimlo meddyliau hunanladdol. Bydd cyfarfodydd a gweithgorau i edrych ar y strategaeth ac ystadegau o Bowys fel y gellir cyflawni’r strategaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at owen.griffkin@pavo.org.uk