Fy enw i yw Rhydian Parry ac rwyf yn gynrychiolydd ar ran defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer y bwrdd partneriaeth yma ym Mhowys. Ges i ddiagnosis anhwylder deubegynol yn 2002 pan roeddwn yn 17 oed, a hynny yn ystod cyfnod difrifol iawn. Rwyf wedi treulio cyfnodau yn yr ysbyty oherwydd fy nghyflwr nifer o weithiau ers hynny, a phenderfynais ddod yn gynrychiolydd oherwydd fy mhrofiadau yn yr ysbyty, ac o ran y ’system’ yn gyffredinol. Roeddwn yn awyddus i geisio helpu gwasanaethau iechyd meddwl er gwell, trwy ddefnyddio fy mhrofiadau i a rhai defnyddwyr gwasanaeth eraill. Peth gwych yw cael y cyfle hwn, ac ar y cyfan, rwyf yn teimlo fod pobl yn gwrando arnaf ac yn fy mharchu ar y bwrdd. Credaf ein bod yn gwneud gwahaniaeth, er mae’n cymryd llawer o amser i newid pethau ar adegau.