Fy enw i yw Sally ac rwyf wedi ymuno yn ddiweddar fel Cynrychiolydd Gofalwyr. Rwyf am wneud yn siŵr bod gan ofalwyr lais yn y modd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio ym Mhowys gan y gallwn yn hawdd gael ein anghofio. Rwyf am ddefnyddio fy mhrofiadau i sicrhau rhywfaint o newid cadarnhaol a gwneud y gwasanaeth yn well i unrhyw un arall sy’n gorfod gofalu am annwylyn ag iechyd meddwl gwael. Rwy’n eithaf newydd yn y rôl ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymwneud â’r cynrychiolwyr eraill, a gobeithio cwrdd â gofalwyr eraill i glywed eu straeon.