Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ddarparwyr Iechyd Meddwl am eu barn ar y Breathing Space (cynllun seibiant dyled) Gweler isod:
Annwyl Cydweithwyr
Mae Lle i Anadlu (Cynllun Seibiant Dyledion) yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Fe’i lansiwyd ym mis Mai 2021 i roi diogelwch dros dro i unigolion â dyled broblemus, i’w gwarchod rhag y rhan fwyaf o gamau gorfodi, llog, ffioedd a thaliadau. Mae’r Cynllun safonol yn cynnig hyd at 60 diwrnod o seibiant i’r rhai sy’n cael cyngor proffesiynol ar ddyledion. I’r rhai sy’n cael triniaeth iechyd meddwl, mae’r Cynllun yn para hyd y driniaeth, ynghyd â 30 diwrnod arall.
Mae’r data yn dangos bod gan Gymru niferoedd uwch yn manteisio ar y Cynllun safonol o gymharu â Lloegr, ond niferoedd is yn manteisio ar yr elfen argyfwng iechyd meddwl. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn Nhrysorlys EF i ddeall y rhesymau am y niferoedd gwahanol yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn cydnabod bod gennych yr wybodaeth a’r profiad o helpu pobl i ymuno â’r Cynllun, a byddem yn ddiolchgar am eich barn ar y canlynol:
- Y prosesau sy’n gweithio’n dda i gael pobl i ymuno â’r Cynllun safonol
- A oes unrhyw ffactorau penodol yn golygu bod niferoedd is yn manteisio ar elfen argyfwng iechyd meddwl y Cynllun? Er enghraifft, a oes rhwystrau yn atal cydlynwyr gofal rhag cyfeirio achosion cleifion i weithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy i’w hardystio? A yw’r gweithwyr proffesiynol hyn yn ddigon ymwybodol o elfen argyfwng iechyd meddwl y Cynllun? Os nad ydynt, sut y gellid gwella hyn?
Mae croeso ichi ddarparu unrhyw sylwadau cryno eraill sydd gennych ynghylch sut y gellid gwella prosesau i helpu pobl i ymuno â’r Cynllun.
Anfonwch eich adborth i RhwydweithiauCynghori@llyw.cymru erbyn 7 Tachwedd 2025.