Maw 11, 2024

Hoffem eich gwahodd i’n helpu i lunio ein strategaethau yn y dyfodol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant meddyliol, ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru. Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi ein strategaethau blaenorol, ac rydym bellach wedi cyhoeddi Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, a Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd i Gymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus 16 wythnos o hyd. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 11 Mehefin 2024.

Iechyd meddwl a llesiant meddyliol

Cymraeg – https://www.llyw.cymru/strategaeth-iechyd-meddwl-llesiant-meddyliol

Saesneg – https://www.gov.wales/mental-health-and-wellbeing-strategy

Atal hunanladdiad a hunan-niweidio

Cymraeg – https://www.llyw.cymru/strategaeth-atal-hunanladdiad-hunan-niweidio

Saesneg – https://www.gov.wales/suicide-and-self-harm-prevention-strategy

Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i gynnal trafodaethau mewn grwpiau am y strategaethau. Bydd y pecynnau ymgysylltu hyn yn darparu gwybodaeth ichi i siarad ag eraill i’w helpu i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i’r ymgyngoriadau. Mae adnoddau ar gael ar gyfer oedolion a phobl ifanc.

Cysylltwch â’r Blwch Post Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed i ofyn am becynnau ymgysylltu ar gyfer y strategaethau.

Os ydych chi’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac os hoffech gael pecyn ymgysylltu neu gymorth i gynnal sesiwn ar y strategaethau newydd, cysylltwch â mhstrategy@copronet.wales

Mae’n bwysig inni fod adborth yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, felly mae croeso ichi rannu’r neges hon ag eraill.

Cymorth a chefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl eich hun.

Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch iechyd meddwl, gallwch ffonio Llinell Gymorth CALL: 0800 132 737. Neu am gymorth brys, ffoniwch y GIG ar 111 a phwyso 2.