Beth i’w gwneud os oes angen cymorth brys arnoch
Ydych chi’n meddwl am hunanladdiad?
Stopiwch
- Peidiwch â gwneud unrhyw beth nawr, does dim rhaid i chi weithredu ar eich meddyliau hunanladdol.
- Mae hunanladdiad yn derfynol – gall eich meddyliau, teimladau a phroblemau newid.
- Efallai eich bod yn teimlo wedi llethu neu fel nad oes ffordd allan, ond pan rydyn yn cael trafferth ymdopi, mae ein hymennydd yn rhoi’r goruau ar ein sgiliau datrys problemau.
- Ceisiwch gadw eich hun yn ddiogel am nawr a threuliwch ychydig o amser yn meddwl am y rhesymau dros aros yn fyw.
CEISIWCH GYMORTH
- Siaradwch gyda rhywun; ffrind, aelod o’r teulu neu wasanaeth cymorth – gwelwch y rhestr isod – mae yna bobl sydd eisiau gwrando a helpu.
-
Ffoniwch 111 a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol.
- Os ydych yn teimlo fel bod eich bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Ydych chi’n poeni am rywun arall?
- Os ydych yn tybio bod gan rywun meddyliau am hunanladdiad, gofynnwch iddyn nhw- gall achub eu bywyd.
- Ni fydd pawb sy’n meddwl am hunanladdiad yn dweud wrth rywun, ond efallai bod arwyddion rhybudd yno.
- Dywedwch wrth yr unigolyn pam eich bod yn poeni amdanynt a’i bod yn iawn i siarad am hunanladdiad.
- Gwrandewch ar beth sydd gan yr unigolyn i ddweud a chofiwch i drin yr hyn maent yn dweud yn ddifrifol ac yn dringar.
- Ceisiwch beidio â barnu neu roi cyngor.
- Trafodwch sut y gallant gadw’n ddiogel a lle i ddod o hyd i gymorth.
CEISIWCH GYMORTH
- Anogwch nhw i ffonio 111 a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol.
- Anogwch nhw i ddefnyddio un o’r gwasanaethau y cefnogir isod.
- Os ydych yn teimlo fel bod eu bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 neu ewch gyda’ch gilydd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Staying Safe
Mae Staying Safe yn cynnig ffyrdd tosturiol, caredig a hawdd er mwyn helpu cadw pobl yn ddiogel rhag meddyliau’n ymwneud â hunan-niweidio a hunanladdiad, i geisio cymorth a chael gobaith o wella drwy fideos pwerus gan bobl sydd â phrofiad personol.
Os ydych yn cael anhawster gyda sefyllfa anodd ac yn cael meddyliau hunanladdol, mae’r wefan hon yn rhoi syniadau ynglŷn â sut i weithio’ch ffordd drwyddi a’r pethau y gallwch chi – a phobl eraill – eu gwneud i wneud pethau’n well.
Ewch i: www.stayingsafe.net
(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)
GIG 111 Pwsyo 2
I gael cymorth iechyd meddwl ar frys FFONIWCH 111 a phwyso RHIF 2
Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi’n poeni am aelod o’r teulu, ffoniwch GIG 111 a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl yn eich ardal.
Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.
Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL
Mae CALL yn darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.
Ffoniwch nawr ar 0800 132 737
Tecstiwch ‘help’ i 81066
Samariaid
Os ydych chi’n cael amser anodd, neu os ydych chi’n poeni am rywun arall. Beth bynnag yw eich sefyllfa, bydd aelod o’r Samariaid yn barod i’w hwynebu gyda chi.
Mae’r Samariaid ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffoniwch nawr ar 116 123
E-bostiwch jo@samaritans.org
Neu ewch i www.samaritans.org
PAPYRUS (atal hunanladdiad ifanc ar gyfer pobl dan 35 oed a’r rheini sy’n eu cefnogi nhw)
Ydych chi, neu oes yna berson ifanc rydych yn ei adnabod yn methu ymdopi â bywyd? Am gyngor cyfrinachol am atal hunan laddiad cysylltwch â HOPELINEUK.
Ar agor rhwng 9yb – 12yb (hanner nos) bob diwrnod y flwyddyn:
Ffoniwch ar 0800 068 4141
E-bost: pat@papyrus-uk.org
Dewch o hyd i help a chymorth ar Hafan – Papyrus UK | Suicide Prevention Charity (papyrus-uk.org)
Rethink
Mae Rethink yn gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt yn ddifrifol gan salwch meddwl drwy ein rhwydwaith o grwpiau a gwasanaethau lleol, gwybodaeth arbenigol ac ymgyrchu llwyddiannus. Nod Reithink sicrhau bod gan bawb yr effeithir arnynt gan salwch meddwl difrifol ansawdd bywyd da. Mae Rethink yn darparu cyngor a gwybodaeth am sut i gefnogi rhywun sy’n teimlo’n hunanladdol.
Ffoniwch 0808 801 0525
Neu ewch i: www.rethink.org
(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)
Ymgyrch yn erbyn Byw’n Druenus (CALM) i ddynion
Mae Ymgyrch yn erbyn Byw’n Druenus (CALM) yn fudiad blaenllaw i atal hunanladdiadau. Bob wythnos bydd 125 o bobl yn y DU yn lladd eu hunain ac mae 75% o’r holl achosion yn y DU yn ddynion. Mae CALM yn bodoli i newid hyn.
Mae’r llinellau ffôn ar agor o 5pm tan hanner nos bob diwrnod.
Ffoniwch: 0808 58 58 58
Neu ewch i: www.thecalmzone.net
(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)
First Hand
Help os ydych chi wedi gweld hunanladdiad rhywun nad oeddech chi’n ei adnabod
Home – First Hand (first-hand.org.uk)
(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Os yw’ch gosodiadau yn y Gymraeg, bydd eich porwr yn cynnig opsiwn i gyfieithu’r wefan o’r Saesneg i’r Gymraeg i chi)
DAN24/7
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
DAN 247 – Llinnell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
ARA
Elusen gofrestredig, sy’n helpu pobl i wella o broblemau iechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol a gamblo.
Croeso i Ara – Addiction Recovery Agency (Ara) – Recovery For All (recovery4all.co.uk)
Sefydliad DPJ
Mae Sefydliad DPJ yn elusen iechyd meddwl yng Nghymru i gefnogi’r rhai mewn amaethyddiaeth a chymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Shout
Shout yw’r gwasanaeth negeseuon testun 24/7 am ddim, cyntaf y DU ar holl brif rwydweithiau ffonau symudol, ar gyfer unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd ac yn unrhyw le. Mae’n fan i fynd iddo os ydych yn cael anhawster yn ymdopi a’ch bod angen cymorth ar frys.
Gweithredir Shout gan dîm o wirfoddolwyr, sy’n ganolog i’r gwasanaeth.
Tecstiwch ‘shout’ i 85258
Neu ewch i www.giveusashout.org
Llinell Wrando Iechyd Meddwl CALL
Mae CALL yn darparu llinell wrando iechyd meddwl a chymorth emosiynol cyfrinachol sydd ar gael 24/7. Gall CALL hefyd gyfeirio unigolion at gefnogaeth mewn cymunedau lleol ac at ystod o wybodaeth ar-lein.
Tecstiwch ‘help’ i 81066
Llinell decst Young Minds
Mae llinell decst YoungMinds yn cynnig cymorth am ddim, 24/7 dros neges destun i bobl ifanc dan 25oed, unrhyw le yn y DU. Os oes angen siarad â rhywun am sut rydych yn teimlo.
Tecstiwch YM i 85258
(Nodwch, mae’r ffynhonnell hwn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Os ydych wedi bod yn profi anawsterau gyda’ch iechyd meddwl ac efallai am ddod o hyd i wybodaeth, opsiynau triniaeth a ble i fynd am gefnogaeth, mae gan yr elusen DU Mind adnoddau defnyddiol iawn a all eich helpu deall y wahanol fathau o anawsterau iechyd meddwl y gall bobl eu profi, yn well.
Adnoddau Cymraeg: Gwybodaeth a chefnogaeth | Mind, the mental health charity – help for mental health problems
Mind
Os ydych chi’n cael amser anodd ar ôl ymgais hunanladdiad, mae Mind yma i chi. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae ganddynt adran benodol ar eu gwefan sy’n rhoi cymorth i bobl yn dilyn ymgais hunanladdiad: Ymdopi ar ôl ymgais hunanladdiad – Mind
Mae nifer o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector ar gael ym Mhowys y gallwch ddefnyddio i gael cefnogaeth.
Gallwch chwilio ‘Iechyd Meddwl’ ar InfoEngine i ddod o hyd i wasanaethau yn lleol i chi.
Cyfeiriadur Gwasanaethau (powysmentalhealth.org.uk)