Cynrychiolydd Dinasyddion ar gyfer bwrdd partneriaeth iechyd meddwl

Mae Bwrdd Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl “Byw’n Dda” wedi’i sefydlu i oruchwylio’r ddarpariaeth a’r gweithrediad o wasanaethau iechyd meddwl ym Mhowys. Yn aml, mae angen arweiniad ar weithwyr proffesiynol ynghylch beth yw goblygiadau bywyd go iawn penderfyniadau cynllunio.

Mae cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn eistedd ar y bwrdd i roi persbectif y dinesydd. Maent yn tynnu ar eu profiad eu hunain o gael mynediad at wasanaethau Iechyd Meddwl i lywio polisi, darpariaeth ac ymarfer.

Cyfrifoldeb PAVO yw recriwtio a chefnogi 6 Chynrychiolydd Dinasyddion. I eistedd ar y bwrdd. Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y gallech fod â diddordeb ynddo, gallwch edrych ar y disgrifiad rôl llawn a/neu gysylltu â’n swyddog Cyfranogiad Iechyd Meddwl isod.